Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad yr Arglwydd Murphy o Dorfaen ar ddarpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol i’r Arglwydd Murphy archwilio’r trefniadau cyfredol ar gyfer cefnogi darpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yng Nghymru ac archwilio rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cefnogi’r ddarpariaeth hon. Hefyd, gofynnwyd yn benodol iddo lunio argymhellion ynglŷn ag ariannu darpariaeth conservatoire a darpariaeth gysylltiedig yn y dyfodol yng Nghymru, ac i nodi sut y gellid datblygu’r cwricwlwm.

Bu’r Arglwydd Murphy’n ymgynghori’n eang a derbyniodd 22 o gyflwyniadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol. Prif argymhellion ei adroddiad yw:

• dylid cynyddu cyllid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (y Coleg) o’i lefel sylfaenol cyfredol tua £2.36 miliwn y flwyddyn, dros gyfnod o dair blynedd o 2017/18 ymlaen, a dylai CCAUC ystyried dileu dyled ei fenthyciad di-log i’r Coleg;

• dylid adfer ymreolaeth y Coleg, newid ei enw i “Conservatoire Brenhinol Cymru”, a datblygu ei rôl genedlaethol ymhellach;

• dylai’r Coleg, yn amodol ar weithredu’r argymhellion yn ymwneud â chyllido a llywodraethu, gynllunio i gyflwyno hyfforddiant dawns gyfoes ar gyfer israddedigion dros y tair blynedd nesaf, a pharhau i adolygu unrhyw angen sylweddol am ddarpariaeth theatr gerddorol estynedig.

Mae’r Arglwydd Murphy hefyd yn awgrymu y gallai CCAUC ystyried, maes o lawr, a oes angen premiwm pwnc drud i dalu costau llawn unrhyw nodweddion pwysig o’r ddarpariaeth addysgu yn y diwydiannau creadigol, yn debyg i’r hyn a geir ar gyfer pynciau STEM.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Murphy am gytuno i arwain yr adolygiad hwn ac am lunio adroddiad sy’n nodi’n glir sut y gallem gefnogi a datblygu darpariaeth conservatoire yng Nghymru. Mae sector y diwydiannau creadigol yn cynyddu yng Nghymru ac mae’n hanfodol bod y diwydiannau hynny’n gallu parhau i recriwtio pobl sy’n meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol. Mae’n rhaid i ddarpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yn addysg uwch Cymru fod o’r safon uchaf ac mae cefnogi rhagoriaeth ble bynnag y bo yn cyd-fynd â’n Cenhadaeth Genedlaethol ehangach.

Rwy’n croesawu argymhellion yr Arglwydd Murphy. Rwyf eisoes wedi dweud wrth CCAUC y dylai adfer cyllid premiwm ar gyfer pynciau drud (sy’n cynnwys cyllid ar gyfer darpariaeth conservatoire a darpariaeth gysylltiedig) fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn addysg uwch o 2019-20 ymlaen a fydd yn bosibl drwy weithredu diwygiadau Diamond i gyllid AU a chyllid myfyrwyr. Wrth wneud penderfyniadau am ddyraniadau cyllid y dyfodol, byddwn yn disgwyl i CCAUC ystyried argymhellion yr Arglwydd Murphy am lefel sylfaenol y cyllid refeniw sydd ei angen i osod y Coleg ar sail gyllido gymaradwy â sefydliadau eraill sy’n cystadlu ag ef. Rwyf hefyd wedi gofyn i CCAUC weithio gyda’r Coleg i ystyried cyfleoedd i ehangu ei gwricwlwm cyfredol i gynnwys hyfforddiant dawns cyfoes yn y dyfodol.

Mae argymhellion eraill yr Arglwydd Murphy wedi’u cyfeirio at Brifysgol De Cymru a’r Coleg. Rwy’n falch bod y Brifysgol a’r Coleg hefyd yn croesawu adroddiad yr Arglwydd Murphy ac yn ymrwymedig i gydweithio i ddatblygu’r syniadau a nodwyd. Mater i’r ddau sefydliad yw statws y Coleg yn y dyfodol a’r cysylltiadau llywodraethu rhwng y Coleg a’r Brifysgol. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru a CCAUC yn parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliadau hynny ac eraill i sicrhau bod darpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio cysylltiedig yn parhau i fod yn hyfyw yng Nghymru a’i bod o’r safon uchaf.

https://beta.llyw.cymru/cyllid-addysg-uwch