Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mehefin, cyhoeddais ddogfen ymgynghori’n amlinellu ein cynigion ar gyfer ailstrwythuro sut y darperir ac y cyllidir Dysgu i Oedolion yng Nghymru. Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Medi; derbyniwyd cyfanswm o 316 ymateb ysgrifenedig.

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am eu barn a’u safbwyntiau ac am helpu i lunio cam nesaf ein cynigion. Roedd consensws amlwg mewn rhai meysydd, ac roedd rhai meysydd eraill lle bydd angen mwy o waith i ddod o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn gweithio i holl ddysgwyr Cymru.

Mae’n amlwg o’r ystod o ymatebion a gafwyd na fydd, efallai, un model cyflawni’n gweithio i bob rhan o Gymru. Rwyf felly wedi gofyn i fy swyddogion weithio’n agos â darparwyr ar draws y rhanbarthau i ddatblygu polisi a fydd yn sicrhau y bydd gennym system gyflawni a chyllido sy’n diogelu’r ddarpariaeth hollbwysig hon at y dyfodol; ac sy’n darparu mewn ffordd deg i oedolion yng Nghymru sydd am ddysgu ac sydd angen ein cymorth.