Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2018 (y rheoliadau drafft) rhwng 25 Mai ac 17 Awst 2018. Cyhoeddwyd y ddogfen sy'n crynhoi prif themâu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diben yr ymgynghoriad oedd ceisio sylwadau ar y Rheoliadau a'u heffeithiau rheoleiddio disgwyliedig. Ar ôl i'r Rheoliadau drafft ddod i rym, bwriedir iddynt weithredu Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n ymestyn y gwaharddiad ar smygu i fannau y tu allan ar diroedd ysbytai ac ysgolion, ar feysydd chwarae cyhoeddus, ac mewn mannau y tu allan mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig. Byddant hefyd yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 (fel y'u diwygiwyd), sy'n gweithredu darpariaethau Deddf Iechyd 2006 sy'n gwahardd smygu mewn mannau caeedig cyhoeddus a mannau caeedig yn y gwaith, gan wahardd smygu mewn cerbydau preifat sy'n cario plant a phobl ifanc o dan 18 oed.    

Daeth 64 o ymatebion i law oddi wrth amrywiaeth o sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd, gan gynnwys pob un o'r 7 bwrdd iechyd a 7 awdurdod lleol. Ar y cyfan roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynigion a gyflwynwyd yn y ddogfen ymgynghori, a'r Rheoliadau drafft arfaethedig. 

Roedd y broses ymgynghori wedi amlygu nifer o faterion penodol ynglŷn â'r Rheoliadau drafft, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n rhoi sylw i'r materion hyn. O dan Gyfarwyddeb Safonau Technegol 2015/1535/EU, bydd angen hysbysu'r UE ac Aelod-wladwriaethau eraill am fersiwn derfynol y Rheoliadau drafft. Ar ôl eu hysbysu, bydd cyfnod segur o dri mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni cheir cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r Rheoliadau drafft

Bwriedir i'r Rheoliadau drafft ddod i rym erbyn dechrau 2020.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.