Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Ionawr 2013, sefydlodd fy rhagflaenydd grŵp llywio annibynnol i ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion yng Nghymru. Ymhlith aelodau'r grŵp, roedd cynrychiolwyr o amrywiol randdeiliaid allweddol. Fe'i cadeiriwyd gan Stuart Arthur o Box UK, Tom Crick o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Janet Hayward o Ysgol Gynradd Tregatwg. Cafodd y grŵp orchwyl i lunio adroddiad yn amlinellu ei argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Ymhlith y themau i'w hystyried yn yr adroddiad, roedd:

  • Mae angen i 'TGCh' mewn ysgolion gael ei hailfrandio a'i hailwampio ac mae angen sicrhau ei bod yn berthnasol i'r presennol ac i'r dyfodol.
  • Man cychwyn yn unig yw llythrennedd digidol - mae angen addysgu dysgwyr i greu yn ogystal â defnyddio.
  • Dylid cyflwyno cyfrifiadureg yn yr ysgol gynradd a'i datblygu yn holl gyfnodau'r cwricwlwm er mwyn i ddysgwyr fedru symud ymlaen i ddilyn gyrfa yn y sector.
  • Dylai sgiliau, megis datrys problemau mewn modd creadigol, fod yn rhan o'r cwricwlwm.
  • Mae angen mynd ati, mewn partneriaeth ag ysgolion, Addysg Uwch a'r diwydiant, i ddatblygu cymwysterau diwygiedig.

Mae adroddiad y Grŵp Llywio TGCh, a gyhoeddwyd heddiw, yn gofyn rhai cwestiynau arwyddocaol iawn ac yn ymchwilio i themau y mae angen inni eu hystyried yn awr yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu. Yn ei dro, caiff ei ystyried yng nghyd-destun fy mlaenoriaethau ar gyfer addysg yng Nghymru:

  • gwella llythrennedd
  • gwella rhifedd
  • lleihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysgol.

Rwy'n hynod ddiolchgar am yr adroddiad hwn a byddaf yn ymateb yn llawn i'r argymhellion maes o law. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i Stuart Arthur, Tom Crick a Janet Hayward, ac Aelodau canlynol y grŵp, am eu holl waith i lunio'r adroddiad a'r argymhellion:

  • Yr Athro Khalid Al-Begain (Prifysgol Morgannwg)
  • Chris Britten (Ysgol Arbennig Ashgrove, Bro Morgannwg)
  • Lucy Bunce (Ysgol Gyfun y Pant, Rhondda Cynon Taf)
  • Gareth Edmondson (Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe)
  • Mark Feeney (e-skills UK)
  • Charlie Godfrey (Fujitsu)
  • Ben Lidgey (Monitise)
  • Hannah Mathias (Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd)
  • Yr Athro Faron Moller (Prifysgol Abertawe)
  • Simon Pridham (Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe)
  • Maldwyn Pryse (Estyn)
  • Glyn Rogers (Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl)
  • Magi Gould (Y Brifysgol Bangor)
  • Mark John (Vision Thing Communications)
  • Gareth Morlais (BBC Cymru)

Adroddiad y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru (dolen alanol)