John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Ar hyn o bryd mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb. Wrth i’n hinsawdd newid, gallwn ddisgwyl cynnydd yn hyn, ac mae’n debygol y bydd mwy o bobl yn dioddef mwy o lifogydd yn fwy rheolaidd.
Ni allwn rwystro nac atal llifogydd, ond gallwn gymryd camau i reoli perygl llifogydd a’r sgil-effeithiau i’r cymunedau hynny sy’n dioddef.
Ar ôl llifogydd haf 2007 yn Lloegr, comisiynodd Llywodraeth y DU adroddiad gan Syr Michael Pitt. Wrth lunio’r adroddiad hwnnw, cynhaliodd Syr Michael adolygiad cynhwysfawr o’r llifogydd, yr ymateb iddynt a’r trefniadau oedd gan y cyrff sy’n gyfrifol am ymateb.
Dolen i Adolygiad Pitt:
http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20100807034701/http:/archive.cabinetoffice.gov.uk/pittreview/thepittreview/final_report.html
Gwnaeth Adolygiad Pitt 92 o argymhellion er mwyn gwella’n hymateb i lifogydd. Un o’r rhain oedd y dylid cynnal ymarfer argyfwng er mwyn i gyrff ymateb allu profi’u trefniadau ar gyfer llifogydd.
Er bod yr argymhellion yn Adolygiad Pitt yn ymwneud yn benodol â rheoli perygl llifogydd yn Lloegr, maent yr un mor berthnasol i Gymru lle ceir perygl tebyg o lifogydd. Rydym yn benderfynol o ddysgu’r gwersi i Gymru yn sgil Adolygiad Pitt, gan gynnwys cymryd rhan mewn unrhyw ymarfer llifogydd mawr.
Datblygwyd Ymarfer Watermark mewn ymateb i argymhelliad Pitt ac fe’i cynhaliwyd ddechrau mis Mawrth 2011. Yr ymarfer oedd un o’r digwyddiadau ‘parodrwydd’ amddiffyn sifil mwyaf erioed i’w cynnal yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn brawf trylwyr o’r systemau a’r trefniadau ar gyfer ymateb i achosion llifogydd mawr.
Cymerodd dros 60 o gyrff yng Nghymru ran yn yr ymarfer hwn, lle’r oedd gwasanaethau brys a chyrff ymateb eraill yn gweithio ochr yn ochr â’r sector gwirfoddol a chymunedau. Roedd tair haen i’r ymarfer, sef “Core”, “Bolt on” a “Plug and play”. Profodd Llywodraeth Cymru y trefniadau cenedlaethol fel rhan o “Core”, gyda threfniadau lleol yn cael eu profi o dan “Bolt on” a threfniadau ar gyfer safleoedd a chymunedau penodol yn cael eu profi o dan “Plug and play”. Profwyd ein trefniadau ymateb ac adfer yn ystod yr ymarfer hwn.
Roedd yr ymarfer yn gyfle i brofi’n drylwyr ein parodrwydd ar gyfer llifogydd ac roedd yn dangos bod ein cynlluniau a’n trefniadau cyfredol yn gweithio’n dda.
Yn sgil Ymarfer Watermark rhoddwyd y cyfrifoldeb i Asiantaeth yr Amgylchedd gynnal adolygiad ffurfiol o’r ymarfer, gan gwmpasu holl gamau cynllunio a gweithredu’r ymarfer.
Rwy’n falch o ddweud bod adroddiad terfynol Ymarfer Watermark wedi cael ei gyhoeddi, sy’n rhoi gwerthusiad manwl o’r ymarfer. Ynghyd â’r adroddiad terfynol ceir ‘adroddiad cynllunio, gweithredu ac adolygu Ymarfer Watermark’ sy’n crynhoi’r gwersi a ddysgwyd o agweddau cynllunio, gweithredu ac adolygu’r ymarfer, gyda’r nod o helpu’r rheini sy’n cynllunio ac yn cyflawni ymarferion mawr yn y dyfodol.
Mae dogfen grynodeb hefyd wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer cymunedau a’r ymatebwyr, ac mae’n cyflwyno astudiaethau achos o weithgareddau cymunedol a gynhaliwyd yn ystod yr ymarfer.
Rwy’n argymell cymryd amser i ddarllen y gyfres o adroddiadau. Yn ôl yr arfer, mae gwersi i’w dysgu ac mae’r adroddiadau’n tynnu sylw at hyn, gydag argymhellion i wella’n gallu i ymateb i lifogydd ar bob lefel, o gymunedau lleol i’r llywodraeth.
Rwyf wedi cyfarwyddo Grŵp Llifogydd Cymru, sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru a chyrff ymateb, i ystyried adroddiadau Ymarfer Watermark a p’un a yw’r argymhellion yn briodol i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru a Defra yn rhoi ymateb ffurfiol i’r adroddiadau ddechrau 2012.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn Ymarfer Watermark. Mae’n rhaid i lawer o gyrff chwarae rhan hanfodol o ran cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio fel llywodraeth, cyrff ymateb a chymunedau i brofi ac ymarfer y trefniadau i sicrhau ein bod yn barod i ymateb yn effeithiol yn y dyfodol.