Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2010, cyhoeddwyd ‘Chwalu’r Rhwystrau: Ateb y Sialensau’, sef cynllun gweithredu a oedd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni’r nodau strategol yn Busnes Pawb, ein strategaeth yn 2001 ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion lles emosiynol ac iechyd meddwl. Roedd y Cynllun Gweithredu yn cynnwys ymrwymiad i baratoi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd tuag at roi’r Cynllun Gweithredu ar waith.

Ym mis Hydref 2012, cyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl gennym, a ddisodlodd Busnes Pawb, Chwalu’r Rhwystrau a’r Strategaeth Iechyd Meddwl cysylltiedig i Oedolion, sef Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru: Tegwch, Grymuso, Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd. Dyma’r Strategaeth Iechyd Meddwl newydd gyntaf ers deng mlynedd ac am y tro cyntaf mae’n dwyn ynghyd blant, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn er mwyn mabwysiadu ymagwedd ‘bywyd cyfan’ tuag at anghenion emosiynol ac iechyd meddwl. Fodd bynnag, cyn cefnu ar Busnes Pawb a Chwalu’r Rhwystrau, mae ond yn briodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno adroddiad am y tro olaf ar y cynnydd a’r heriau a wynebir wrth ddatblygu’r agenda hon.

Cyfarfu’r Grŵp Sicrwydd Cyflawni, sef y grŵp amlasiantaethol a gafodd y dasg o oruchwylio’r broses o roi’r Cynllun Gweithredu ar waith, am y tro olaf ym mis Chwefror 2013, er mwyn gorffen ei raglen waith a chytuno ar ei adroddiad terfynol, y mae’n dda gennyf ei dderbyn. Rwyf wedi penderfynu sicrhau ei fod ar gael yn eang drwy ei gyhoeddi ar dudalennau iechyd meddwl gwefan Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau sydd wedi digwydd drwy gydol 2012-13. Mae’n rhoi darlun o wasanaethau sy’n gwella a datblygiad llawer o gamau gweithredu cadarnhaol, yn enwedig y cydberthnasau gwaith agos rhwng partneriaid ar draws nifer o sectorau, y mae pob un ohonynt yn gweithio i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Mae’n adroddiad diflewyn ar dafod ac mae’n manylu ar y meysydd hynny lle bu llai o gynnydd, megis o ran pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion, a lle mae angen i ni ymdrechu o’r newydd fel rhan o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Yn hyn o beth mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn rhagweld y bydd rôl o hyd i’r Grŵp Sicrwydd Cyflawni, gan adeiladu ar ei waith ar Chwalu’r Rhwystrau er mwyn ymgymryd â gweithgarwch fel rhan o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bydd grŵp wedi’i ailgynnull yn cyfarfod yn yr haf.

Cymeradwyaf yr adroddiad i Aelodau’r Cynulliad a gofynnaf i chi nodi effaith ein gwaith ar wella’r gwasanaethau i lawer o’n pobl ifanc.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.