Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Cyllid Addysg Uwch. Rwy’n ddiolchgar i’r Swyddfa Archwilio am ei gwaith yn llunio adroddiad sy’n cwmpasu nifer o faterion dyrys ac eang eu cwmpas.

Rwy’n croesawu canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru fod cyllid sefydliadau addysg uwch Cymru yn gadarn a bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru wedi gweithredu’r polisi yn ymwneud â ffioedd dysgu yn effeithiol. Mae’r adroddiad yn dangos yn glir fod y polisi ynghylch ffioedd dysgu a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon yn 2012-13 wedi helpu i osod sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar sylfaen ariannol gadarn, sylfaen fydd yn ei galluogi i wynebu’r dyfodol yn hyderus.

Mae’r adroddiad yn cyfiawnhau ein safiad ar gyllido prifysgolion Cymru a rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr o Gymru. Mae’r dystiolaeth yn cadarnhau bod ein polisi ar ffioedd dysgu yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy am oes y Llywodraeth hon a thu hwnt. Mae’r Swyddfa Archwilio hefyd wedi cadarnhau y bydd sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn parhau i elwa ar y lefelau uwch o incwm o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gennym ac, ar yr un pryd, y bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn crynhoi llai o ddyledion na’u cyd-fyfyrwyr yn Lloegr. Mae hyn yn llwyddiant mawr o ystyried bod Cymru yn wynebu gostyngiadau na welwyd mo’u tebyg mewn gwariant cyhoeddus gan lywodraeth San Steffan.

Ar 18 Tachwedd, cyhoeddais gynigion ar gyfer adolygiad annibynnol ar drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond. Ceir yn yr adroddiad dystiolaeth bwysig a fydd yn sail i ddatblygu syniadaeth at y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a’i hargymhellion maes o law.

http://www.wao.gov.uk/cymraeg/news/newyddion_5393.asp