Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru (y Swyddfa) ei hadroddiad ar y Rhaglen Cefnogi Pobl heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Swyddfa am ei gwaith wrth lunio’r adroddiad ar y rhaglen grant bwysig hon.
Rwy'n croesawu barn y Swyddfa bod y Rhaglen yn darparu gwasanaethau pwysig a'i bod wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, rwyf hefyd yn cydnabod y sylw am yr angen i wella'r Rhaglen ymhellach.
Mae'n bwysig ein bod yn ystyried pa mor bell y mae'r Rhaglen wedi dod ers Adroddiad Aylward yn 2010. Mae gwaith y darparwyr cymorth yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau unigolion sy'n agored i niwed.
Wrth edrych tuag at y dyfodol, rhaid inni sicrhau bod lle canolog yn cael ei roi i ddefnyddwyr gwasanaethau yn rhan o brosesau’r Rhaglen o wneud penderfyniadau, a bod eu buddiannau'n cael eu cynrychioli.
Rwy'n cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith i wella gweithio'n rhanbarthol ac i sicrhau bod y gwasanaethau'n canolbwyntio ar ddarparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai. Rwy'n gwbl ymrwymedig i sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda'r sector wrth ystyried yr argymhellion sydd yn yr adroddiad ac i wella'r rhaglen hanfodol hon i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru'n ymateb yn ffurfiol i ganfyddiadau ac argymhellion y Swyddfa maes o law.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.