Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynlluniwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) gan Lywodraeth Cymru i hybu buddsoddiad mewn seilwaith ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau a nodir yn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi carbon sero (WIIS). Pan lansiwyd y MIM yn 2017, gwnaethom ymrwymiad i fod mor dryloyw â phosibl am ein camau gweithredu.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cyntaf MIM – dogfen sy'n disgrifio ein gweithgareddau dros y cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Mawrth 2024. Mae'r adroddiad yn disgrifio yn fanwl: 

  • Prif nodweddion MIM,
  • Manylion prosiectau MIM presennol, 
  • Y partïon sy'n ymwneud â phrosiectau MIM a'u priod rolau,   
  • Data dychwelyd ecwiti, a
  • Buddion Cymunedol a gyflawnir drwy'r prosiectau.