Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt , y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cam 2 ein Hadolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol wedi dod i ben drwy gyhoeddi map ac adroddiad 'Gwneud Nid Dweud' Chwarae Teg er mwyn ceisio sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau ategol hefyd:

https://chwaraeteg.com/prosiectau/adolygiad-o-gydraddoldeb-rhywiol/#cam-dau

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn derbyn adroddiadau Chwarae Teg sy'n cydnabod y cynnydd rydym wedi'i wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn nodi camau penodol i helpu i wireddu ein gweledigaeth o gydraddoldeb i bawb, gan wneud Cymru yn gymdeithas gyfartal, deg a chyfiawn. Wrth dderbyn y weledigaeth a'r egwyddorion ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithredu ar draws y sectorau wrth ymateb i argymhellion yr adolygiad. 

Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith y llywodraeth hon, ac un rhan yn unig o'n hymgais i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol. Rydym yn ymgynghori ar ein Papur Gwyn ar Fil Partneriaeth Gymdeithasol, ac yn nes ymlaen y mis hwn, byddwn yn ymgynghori ar gychwyn Rhan 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) - y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Yn gynharach eleni, derbyniwyd argymhellion adroddiad Gwaith Teg Cymru y Comisiwn Gwaith Teg. Rydym hefyd yn comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall sut y gallwn gryfhau hawliau ac amddiffyniadau ymhellach.

Mae rhoi camau gweithredu yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol ar waith yn galw am gynllun newid hirdymor, ynghyd ag ymrwymiad a ffocws cyson. Rwyf am ehangu fy Ngrŵp Llywio Cryfhau Cydraddoldeb a Hyrwyddo Hawliau Dynol, felly, i ddarparu cyfeiriad strategol a goruchwylio'r broses o weithredu'r argymhellion. Bydd y Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a chynrychiolwyr o'r trydydd sector, gan gynnwys grwpiau menywod, grwpiau hil, grwpiau LGBT+ a grwpiau anabledd. 

Ar sail yr ymatebion y cytunodd y Cabinet arnynt i'r argymhellion yn 'Gwneud Nid Dweud' a'r Map, mae swyddogion wrthi'n datblygu ein Cynllun Gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau nid dim ond ein bod yn gallu monitro ac adolygu cynnydd, ond hefyd ein bod yn gallu cadw'r ffocws a'r momentwm.

Rydym wedi bod yn ymroi ers cenedlaethau i geisio sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae angen i bawb fod yn rhan o hyn os ydym am weld y newid rydym i gyd yn dymuno ei weld, ac mae hyn yn cynnwys dynion, menywod, bechgyn, merched a phobl anneuaidd.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Chwarae Teg am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u hangerdd wrth gynnal yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol. Rwyf hefyd am fynegi fy niolchgarwch i Dr Alison Parken a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am eu gwaith ar yr adroddiadau ategol. Yn olaf, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael aelodau Grŵp Llywio'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a'r Grŵp Cynghori Arbenigol a gadeirir gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Mae pob un ohonoch wedi bod yn hanfodol i'n cael ni i'r pwynt hwn. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth i'r dyfodol wrth inni hyrwyddo'r gwaith hwn, a gwireddu ein huchelgais i greu llywodraeth ffeministaidd.