Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 10 Gorffennaf lansiwyd ymgynghoriad yn ceisio barn am gynigion Llywodraeth Cymru i ACC gael mynediad at bwerau troseddol. Amlinellodd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 2 Hydref, fy nghynnig y dylai ACC gael pwerau yn eu lle i atal ac ymchwilio i droseddu ym maes trethi datganoledig. Daeth 17 o ymatebion i law, gan gynnwys cyfraniadau gan bartneriaid allweddol fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol  a Chyfoeth Naturiol Cymru. At ei gilydd, roedd cefnogaeth i safbwynt Llywodraeth Cymru ar y prif faterion a nodwyd yn yr ymgynghoriad.

Ni ddylai unrhyw Lywodraeth ddeddfu i roi pwerau troseddol i awdurdod cyhoeddus oni bai bod angen hynny. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig y dylai ACC gael mynediad at rai o'r pwerau sy'n cael eu harfer ar hyn o bryd gan CThEM wrth ymchwilio i droseddu ym maes trethi yng Nghymru.  Ynghlwm wrth y pwerau sefydledig hyn mae set ddiffiniedig o fesurau diogelwch i sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn gymesur ac yn briodol. Wedi ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, rwyf wedi casglu y dylai ACC gael mynediad at rai o'r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd i CThEM o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001.  Yn arbennig, dylai ACC allu gwneud cais i ynad heddwch am warant i gael mynediad i fangre, chwilio ac atafaelu eitemau o fangre neu chwilio person a geir ar y fangre honno wrth ymchwilio i droseddu ym maes trethi datganoledig.

Roedd gwahaniaeth barn ymhlith ymatebwyr ynghylch peidio â rhoi pwerau arestio a chadwad fel rhan o ymchwiliad troseddol, a mynegwyd pryder y gallai diffyg y pwerau hyn atal ACC rhag cyfweld pobl dan amheuaeth.  O gofio'r safbwyntiau hyn a'r nifer bach o droseddau trethi y disgwylir ymchwilio iddynt bob blwyddyn, nid wyf yn credu ei bod yn gymesur ar hyn o bryd i ACC gael mynediad i'r pwerau hyn.  Er hynny, mae'n bwysig nodi na fydd diffyg y pwerau hyn yn atal ACC rhag cyfweld pobl o dan amheuaeth, ac y bydd angen i ACC gydymffurfio â'r Cod Ymarfer perthnasol a rhwymedigaethau cyfreithiol ehangach wrth gynnal cyfweliad o'r fath.

Ar sail yr ymatebion hyn, rwyf wedi cyflwyno drafft o Reoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad i'w gymeradwyo yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 20 Mawrth 2018.

Gofynnodd ein hymgynghoriad safbwyntiau hefyd ar allu ACC i arfer pwerau o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 (“POCA”).  Roedd yr ymatebwyr hefyd o blaid y dull gweithredu a awgrymwyd sef galluogi ACC i benodi ymchwilydd ariannol achrededig i arfer pwerau POCA i:

i. wneud cais am orchymyn atal ac arfer pwerau chwilio ac atafaelu cysylltiedig;
ii. adfer arian parod trwy achosion sifil diannod ac arfer pwerau chwilio ac atafaelu cysylltiedig; a
iii. gwneud amryw o geisiadau (er enghraifft, gwneud cais am orchymyn monitro cyfrif) o ran rhan 8 o POCA yn ystod ymchwiliad atafaelu, gwyngalchu arian neu arian cadwedig.

Er na chynigiwyd hyn i gychwyn yn yr ymgynghoriad, mae nifer o ymatebwyr i'r ymgynghoriad, yn enwedig yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), wedi argymell y dylai ACC gael troi at bwerau penodol i ymchwilio i wyngalchu arian. Bydd y pwerau hyn yn caniatáu i ymchwilydd ariannol achrededig olrhain asedau troseddol lle mae gan ACC le rhesymol dros gredu bod troseddau ym maes trethi datganoledig a gwyngalchu arian wedi digwydd.

Ar sail yr ymatebion hyn, heddiw mae Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 wedi'i gyflwyno, a fydd yn rhoi mynediad i ACC - trwy ymchwilydd ariannol achrededig -  at nifer o bwerau yn Neddf Enillion Troseddau 2002.

Yn olaf, roedd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad hefyd yn cefnogi'r cynnig y dylai ACC allu awdurdodi gwyliadwriaeth gyfeiriedig yn unol â' Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (“RIPA”). Ceisiodd yr ymgynghoriad safbwyntiau hefyd ynghylch a ddylai ACC allu awdurdodi'r defnydd o ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol (“CHIS”) o dan  RIPA.  Roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cefnogi hyn ac mae trafodaeth ddilynol â rhanddeiliaid allweddol i gyd wedi tanlinellu pwysigrwydd pŵer awdurdodi CHIS o dan RIPA.

Diben fframwaith RIPA yw amddiffyn hawliau unigolion rhag ymyrraeth anghyfreithlon â'u materion personol neu fusnes gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig bod ACC yn rhan o'r fframwaith hwnnw. Mae hyn yn golygu na ellir defnyddio CHIS ond pan fydd wedi'i awdurdodi gan uwch swyddog sydd wedi'i hyfforddi'n briodol. Ymhellach, mae unrhyw awdurdod cyhoeddus a awdurdodir o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 yn destun goruchwylio a chraffu gan Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPOC).

O safbwynt defnyddio CHIS gan ACC, mae'n bosibl y gallai math o berthynas debyg i CHIS godi, nid oherwydd bod ACC wedi ceisio hynny neu gymell unigolyn i fod yn CHIS, ond yn hytrach am fod ACC yn ymateb i wybodaeth na ofynnwyd amdani oddi wrth unigolion o dan rai amgylchiadau. Heb y gallu i awdurdodi CHIS o dan RIPA, byddai gallu gorfodi ACC yn cael ei lesteirio, am na allai staff ACC ofyn yn gyfreithlon am wybodaeth bellach mewn sefyllfa o'r fath.

Mae ACC wedi cadarnhau y byddent yn bwriadu awdurdodi'r defnydd o CHIS yn y ffordd ymatebol hon, fel ffordd o ymateb i ddeunydd cyfathrebu gan unigolion, yn hytrach nag mewn ffordd ragweithiol neu ymwthiol. Mae ACC yn bwriadu paratoi polisi gweithredol ar sut y byddai'n gweithredu cyn hir, gan dynnu ar gyngor IPOC ac asiantaethau eraill gorfodi'r gyfraith.

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018, a osodwyd gerbron y Cynulliad heddiw, felly'n cadw cysondeb â CThEM ac yn darparu y bydd ACC yn gallu awdurdodi a CHIS o ran RIPA.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.