Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y Datganiad hwn yw eich hysbysu’n ffurfiol o gyhoeddiad chweched adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ‘Gyflwr yr Ystad’.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu mewn amgylchiadau lle mae’r setliadau cyllideb yn gostwng o ganlyniad i Adolygiadau o Wariant Llywodraeth y DU. Mae hwn yn bwynt a bwysleisiais yn ddiweddar gyda chyhoeddi ein Dyllideb Ddrafft ‘Blaenoriaethau i Gymru’ 2015/16. Yn y cyd-destun hwn, mae’n braf y llwyddir i sicrhau gwelliannau o flwyddyn i flwyddyn o ran cost, effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol trwy reoli ein hystad weinyddol mewn modd effeithiol a rhagweithiol.  

Mae adroddiad Cyflwr yr Ystad yn rhoi cipolwg pwysig ar y data perfformiad y byddwn yn eu defnyddio i fonitro pa mor effeithlon ac effeithiol yw’r adeiladau a ddefnyddiwn. Mae’n mesur ein perfformiad dros amser ac er mwyn cymharu â sefydliadau tebyg. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi cefndir rheoli’r ystad o safbwynt y targedau a bennwyd yn Rhaglen y Strategaeth Leoli 2010-15.

Wrth inni ddechrau ar flwyddyn derfynol Rhaglen y Strategaeth Leoli bresennol, mae’r adroddiad yn cadarnhau ein bod ar y llwybr cywir er mwyn rhagori ar ein targedau gwreiddiol ac mae’r arbedion effeithlonrwydd yn sylweddol. Erbyn mis Ebrill 2015 rydym yn rhagweld y byddwn wedi llwyddo i arbed swm crynswth o £19.3 miliwn dros 5 mlynedd y strategaeth, ynghyd â chostau rheolaidd blynyddol ar adeiladau o £6.70 miliwn, o’i gymharu â llinell sylfaen 2010.

Rydym hefyd yn parhau i weithio tuag at dargedau a osodir gan Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ac yn 2013/14 llwyddwyd i ostwng allyriadau CO2 11.3%. Yn wir, rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon 27% yn y tair blynedd ers 2010/11. Mae arferion adeiladu cynaliadwy a phrosesau gweithredol yn parhau yn flaenoriaeth allweddol. Byddwn yn canolbwyntio ar wella perfformiad ein hadeiladau mwy fyth dros y 12 mis nesaf a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd. Yn seiliedig ar ein rhagamcanion cyfredol rydym yn disgwyl sicrhau gostyngiad o 30% mewn allyriadau carbon yn yr ystad weinyddol (yn erbyn llinell sylfaen 2011) erbyn diwedd mis Mawrth 2015. Mae hyn yn gyfraniad pwysig o ran cyflawni ein hamcanion Newid Hinsawdd ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain yn y maes hwn. Er gwaethaf y llwyddiant hwn, ein bwriad yw cynnal y momentwm gyda’n gweithgareddau rheoli carbon a pharhau i weithio i ostwng allyriadau yn yr ystad weinyddol hyd at 2020 a thu hwnt.

Ers sefydlu Rhaglen y Strategaeth Leoli wreiddiol yn 2003, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hamcan blaenllaw i ddatganoli gwasanaethau o Gaerdydd a dod â nhw’n agosach at bobl Cymru. Cydnabyddir y llwyddiant hwn o fewn adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru i ‘Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru’, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2014.

O edrych i’r dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i reoli’r ystad o fewn cyllidebau sydd wedi’u cwtogi’n sylweddol. Wrth i’r strategaeth bresennol ddirwyn i ben, rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer cam nesaf y Strategaeth Leoli, a fydd yn nodi ein cynllun a’n gweledigaeth ar gyfer y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ac yn defnyddio ei phortffolio eiddo y tu hwnt i 2015, gan gwmpasu’r cyfnod o bum mlynedd hyd at 2020. Yr heriau i’r Strategaeth fydd darparu’r seilwaith eiddo cywir mewn modd sy’n ein helpu ni i sicrhau effeithlonrwydd yn awr ac yn y dyfodol, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod busnes y llywodraeth a’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer pobl Cymru yn gynaliadwy.

Ein nod yw parhau i ddarparu ystad wasgaredig yn y lleoliadau cywir er mwyn cefnogi busnes y llywodraeth, arbed cymaint o arian ag y bo modd trwy barhau i ad-drefnu’r ystad, a thrawsnewid a moderneiddio ein mannau gwaith. Mae’r amcanion hyn yn gyson â’n gweledigaeth gorfforaethol o nid yn unig wneud y defnydd gorau o adnoddau Llywodraeth Cymru ond sicrhau hefyd bod ein hadeiladau’n ddiogel, yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac yn effeithiol, yn ogystal â bod yn addas ar gyfer eu diben.