Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) - Adroddiad Cydymffurfio
Mae hawliau plant a phobl ifanc, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), yn parhau i fod yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau o fewn Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru ar 10 Awst ac rwyf wedi ymateb gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor y rhan fwyaf o'r argymhellion.
Hoffwn egluro datganiad blaenorol a gyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf, a oedd yn hysbysu'r aelodau o'r bwriad i ddychwelyd at gylch adrodd pum mlynedd ar gyfer yr adroddiad cydymffurfio ar sylw dyledus, fel y nodir yn erthygl 44(1)(b) o'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, oherwydd y sefyllfa eithriadol yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Roedd hyn yn lle pob dwy flynedd a hanner fel y'i cyhoeddwyd yng Nghynllun Hawliau Plant 2014.
Byddai angen i unrhyw ddiwygiad i'r cylch adrodd dwy flynedd a hanner presennol gael ei wneud drwy ddiwygio'r Cynllun Hawliau Plant. Byddai angen diwygio'r cynllun yn unol â'r gofynion gweithdrefnol yn adran 3 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 gan gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a threfnu i gyhoeddi’r cynllun diwygiedig a’i gyflwyno gerbron y Senedd i’w gymeradwyo. Doedd dim modd newid y cylch adrodd heb fynd drwy'r broses hon.
Yng ngoleuni trafodaeth gydag arbenigwyr hawliau plant, bwriad Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi adroddiad cydymffurfio lefel uchel yn gynnar yn 2021 a pharhau â'i hymrwymiad i gynhyrchu adroddiad cydymffurfio ar sylw dyledus bob dwy flynedd a hanner.
Rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi fy mwriad i gynnal trafodaeth o amgylch y bwrdd gyda rhanddeiliaid allweddol i drafod hawliau plant, a fydd yn cynnwys cynnydd yng Nghymru ac adroddiad cydymffurfio drafft.