Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnes i gynnull cyfarfod o’r Grŵp Gorchwyl Rhanddeiliaid Llywodraethu Amgylcheddol er mwyn helpu i ddatblygu opsiynau ar gyfer llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru unwaith y byddai’r DU wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Darparodd y Grŵp Gorchwyl gyfres o argymhellion i mi ym mis Ebrill, a chomisiynais innau ymarfer arfarnu opsiynau ehangach er mwyn caniatáu i mi wneud penderfyniad pwyllog ar y dull cywir i Gymru.
Mae’n bleser gennyf hysbysu Aelodau’r Senedd bod y gwaith arfarnu opsiynau bellach wedi’i gwblhau, ac rwyf wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y Grŵp Gorchwyl. Byddaf yn cyhoeddi Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a’m hymateb heddiw.
Mae argymhellion y Grŵp Gorchwyl ac ymatebion Llywodraeth Cymru fel a ganlyn.
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r bylchau llywodraethu o ran egwyddorion a goruchwyliaeth amgylcheddol drwy gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Dylai ymateb Cymru i lywodraethu amgylcheddol fynd i’r afael â’r bylchau wrth iddynt godi o ddiwedd y cyfnod pontio (1 Ionawr 2021).
Derbyn mewn egwyddor - Oherwydd y pwysau mae ymadael â’r UE ac ymateb i’r argyfwng COVID-19 wedi ei roi ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ni fu’n bosibl cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yn y tymor hwn. Fodd bynnag, yn y ddadl yn dilyn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf, ailadroddodd y Prif Weinidog ei ymrwymiad i wneud hynny.
Argymhelliad 2
Egwyddorion:
a. Dylid darparu ar gyfer pedair egwyddor amgylcheddol yr UE (unioni yn y tarddiad, y llygrwr sy’n talu, atal a rhagofal) yn neddfwriaeth Cymru. Dylai’r egwyddorion hyn gefnogi amcan cyffredinol, sy’n nodi uchelgeisiau amgylcheddol yng Nghymru, gan gynnwys y cysylltiadau rhwng polisi amgylcheddol a meysydd polisi eraill (integreiddio);
Derbyn
b. Dylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymhwyso’r egwyddorion wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn hytrach na chyhoeddi datganiad polisi ar egwyddorion
Derbyn
Argymhelliad 3
Dylid ymestyn y ddyletswydd Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, sy’n berthnasol i Cyfoeth Naturiol Cymru, i grŵp ehangach o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru. Mae angen gwneud rhagor o waith i bennu cwmpas y diffiniad o gyrff cyhoeddus, gan ystyried y diffiniad a ddarperir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae cyrff yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â’r amgylchedd.
Derbyn mewn egwyddor – mae angen gwaith ymchwilio pellach ar yr argymhelliad hwn.
Argymhelliad 4
Dylid mynegi hawliau Confensiwn Aarhus (mynediad at wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder) mewn unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer llywodraethu amgylcheddol.
Derbyn
Argymhelliad 5
Llywodraethu:
a) Dylid sefydlu Comisiwn ar gyfer yr amgylchedd, sy’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, i oruchwylio’r gwaith o gyflwyno cyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
Derbyn
b) Dylai’r Comisiwn gael sicrwydd o ran cyllid a dylai’r Archwilydd Cyffredinol ei archwilio ac adrodd ar ei weithgareddau.
Derbyn mewn egwyddor – yn amodol ar ystyriaeth o’r gyllideb yn y Senedd nesaf.
c) Gan gydnabod maint Cymru, dylai’r Comisiwn gael ei gyfansoddi mewn modd sy’n briodol i Gymru, gyda staff parhaol ond gyda’r gallu i ddefnyddio Panel Arbenigol i ychwanegu at ei swyddogaethau, gan ganiatáu dull hyblyg a chaniatáu i’r corff fanteisio ar ystod eang o arbenigedd. Dylai’r Comisiwn gael swyddogaethau priodol i dderbyn ac ymateb i gwynion gan ddinasyddion yng Nghymru ac i gynnal ymchwiliadau lle nodwyd materion systemig drwy ymchwiliadau a chraffu. Dylai fod ganddo bwerau i uwchgyfeirio materion lle bo angen i stopio neu atal niwed amgylcheddol.
Derbyn
d) Dylai’r Comisiwn allu mynd i’r afael â materion mewn modd priodol, o gynghori cyrff cyhoeddus yng Nghymru i orfodi a defnyddio mecanweithiau adolygiad amgylcheddol gerbron yr Uwch Dribiwnlys.
Derbyn
e) Dylai’r Comisiwn allu cydweithio â chyrff eraill
Derbyn
https://llyw.cymru/ymateb-ir-adroddiad-gan-grwp-gorchwyl-rhanddeiliaid-llywodraethu-amgylcheddol