Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ym mis Ebrill, cyhoeddais Ddatganiad Llafar ar y cynnydd yr oeddem yn ei wneud yng Nghymru o safbwynt y Bathodyn Glas. Hefyd, dywedais fy mod wedi penodi grŵp Gorchwyl a Gorffen, o dan gadeiryddiaeth Val Lloyd, i gyflwyno argymhellion imi ar sut i wella’r cynllun yng Nghymru. Heddiw, rydw i’n cyhoeddi adroddiad y grŵp hwnnw a’r argymhellion a wnaed ganddo, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru.
Ystyriodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen amrywiaeth eang o dystiolaeth ar bob agwedd ar Gynllun y Bathodyn Glas - o’r meini prawf cymhwysedd i asesu a gorfodi. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tri ar ddeg o argymhellion ynghylch sut y gellir gwella’r agweddau hynny ar y cynllun ledled Cymru. Mae’r argymhellion yn cwmpasu amrywiaeth o newidiadau, a gellir mynd i’r afael â rhai ohonynt ar unwaith. Bydd yn rhaid gwneud mwy o waith ar yr argymhellion eraill er mwyn ystyried materion sy’n ymwneud â gweithredu, ymarferoldeb a chostau.
Yn ddiweddar, rhennais yr adroddiad terfynol gydag Aelodau’r Cynulliad gan ofyn iddynt wneud sylwadau cyn iddo gael ei gyhoeddi a chyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau hynny a gyflwynodd eu sylwadau.
Er mwyn rhoi argymhellion y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar waith, rwyf wedi sefydlu Grŵp Gweithredu’r Bathodyn Glas. Bydd y grŵp newydd hwn hefyd yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion a phryderon nad ymchwiliwyd iddynt ac na chawsant eu hystyried gan y grŵp Gorchwyl a Gorffen. Rwyf wedi gwahodd Val Lloyd i Gadeirio’r Grŵp Gweithredu. Bydd nifer o weithgorau eraill hefyd yn cael eu sefydlu a hynny’n unol â’r rhaglen waith.
Yn y gorffennol, rwyf wedi dweud yr hoffwn weld y meini prawf o ran cymhwysedd yn cael eu newid er mwyn cynnwys pobl sydd â phroblemau symudedd am eu bod yn dioddef o gyflyrau dros dro ac y mae angen triniaeth ddwys a chynllun adsefydlu arnynt yn sgil hynny. Rwyf yn rhoi blaenoriaeth i’r broses o newid y meini prawf cymhwysedd, newid y prosesau gweinyddol a gwella’r broses orfodi. Yn y flwyddyn newydd, byddaf yn dechrau proses ymgynghori ar y materion hynny a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn maes o law.
Caiff y datganiad hwn ei osod yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau cyn diwedd y flwyddyn. Byddaf yn rhoi datganiad llawn i’r Aelodau yn y Siambr yn y flwyddyn newydd.