Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at adroddiad is-grŵp economaidd-gymdeithasol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Mae’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan COVID-19 yn peri pryder mawr imi. Er mwyn penderfynu pa gamau y gallwn eu cymryd i leihau’r risg i gymunedau BAME, gofynnais ar i Grŵp Cynghorol arbenigol gael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne, er mwyn ymchwilio i’r materion hyn.

Mae’r Grŵp Cynghorol wedi cael cefnogaeth dau is-grŵp. Mae un grŵp, a gaiff ei gadeirio gan yr Athro Keshav Singhal, wedi datblygu dull asesu risgiau yn y gweithle, i’w ddefnyddio i ddechrau gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd y dull asesu risgiau ei gyhoeddi ar 16 Mai, ac mae bellach yn cael ei roi ar waith ar lefel eang. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud er mwyn addasu’r dull hwn i’w ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith eraill i helpu i leihau risg COVID-19.

Caiff yr ail grŵp ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, ac mae wedi bod yn ystyried y ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd andwyol COVID-19 ymhlith grwpiau BAME. Mae’r is-grŵp hwn wedi bod yn gweithio’n agos gydag arweinwyr a chymunedau BAME dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac wedi tynnu ar eu profiadau personol helaeth a’u harbenigedd broffesiynol i fod yn sail i’r adroddiad a’r argymhellion. Rwy’n croesawu’r adroddiad, ac rwy’n falch gallu cadarnhau iddo gael ei gyhoeddi ddydd Llun, ynghyd â’r papurau tystiolaeth manwl ac ymchwil gyflym a lywiodd gynnwys yr adroddiad.

Mae’r is-grŵp wedi gweithio’n hynod o gyflym, ac mae hynny’n adlewyrchu’r angen brys i sicrhau newid ac achub bywydau, ac rwy’n cymeradwyo’r Grŵp am ei ymrwymiad, ei gadernid a’i waith caled. Mae’r adroddiad yn edrych ar ystod eang o themâu, gan gynnwys risg COVID-19; anghydraddoldebau hil; profiadau o hiliaeth yng Nghymru; ansawdd y data ar ethnigrwydd; cyfathrebu effeithiol gyda chymunedau BAME; sicrwydd cyflogaeth ac incwm; tai a gorlenwi ac ymgysylltu â phobl ifanc.

Byddaf nawr yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion yn fanwl gydag Aelodau’r Cabinet, ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymateb yn ffurfiol i’r set ehangach o argymhellion yn fuan.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro Ogbonna a holl aelodau’r grŵp am roi mor hael o’u hamser a’u harbenigedd, ac am rannu profiadau personol – ac hefyd y rheini a gyfrannodd gyflwyniadau a thystiolaeth ysgrifenedig yn disgrifio’r effeithiau pellgyrhaeddol ar eu bywydau, a hynny mewn cyfnod sy’n anodd ac yn llawn emosiwn a thyndra.

Dyma’r amser i newid a sicrhau bod y newidiadau sy’n cael eu cychwyn yn cael eu gweithredu a’u hymwreiddio, fel bod pobl BAME ar draws Cymru yn cael eu trin yn deg, ac yn gweld canlyniadau gwell i’w iechyd a’u lles.