Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Gorffennaf diwethaf, fe grëwyd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C i ddarparu asesiad annibynnol o’r goblygiadau i Gymru yn sgil datblygu gorsaf ynni niwclear newydd yn Hinkley Point, Gwlad yr Haf. Mae'r Grŵp bellach wedi adrodd ar ei waith ac rwy'n croesawu'r adroddiad cyhoeddedig, a'r casgliad helaeth o dystiolaeth y mae'r Grŵp wedi'i gasglu yn ystod ei waith.

Hoffwn ddiolch i Jane Davidson am gadeirio’r Grŵp, ac aelodau’r Grŵp am eu harbenigedd ac am eu hamser, a roesant yn rhydd dros yr wyth mis diwethaf. Mae eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r materion, a'u gallu i ddadansoddi cymhlethdod Môr Hafren, wedi sicrhau adroddiad y credaf y bydd yn cael ei groesawi gan bawb sy’n gweithio yn, ac yn cynllunio ar gyfer, yr amgylchedd arbennig hwn.

Bydd gan y Llywodraeth nesaf i Gymru y cyfle i ofyn i'r Grŵp barhau i ddarparu eu harbenigedd. Mae'r Grŵp wedi mabwysiadu dull trylwyr ac mae wedi deall a chynrychioli barn ystod o randdeiliaid yn effeithiol iawn. Mae'n amlwg i mi y gall y Grŵp fod yn amhrisiadwy wrth helpu i gyflawni'r uchelgeisiau y mae wedi'u nodi yn ei adroddiad.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r holl randdeiliaid a gyfrannodd at ymholiadau’r Grŵp, gan gynnwys ymgyrchwyr, asiantaethau’r llywodraeth ar ddwy ochr y Môr Hafren, ac i ddatblygwyr y safle, EDF Energy, am ymgysylltu’n agored â’r Grŵp. Rwy’n hyderus y bydd y cydweithrediad a’r ddeialog agored a gafwyd yn ystod ymholiadau’r Grŵp yn parhau wrth i ni i gyd ystyried sut allwn gyfrannu at gefnogi gwytnwch amgylchedd y Môr Hafren.

Mae'n adroddiad eang. Mae'n mynd i'r afael ag effaith y datblygiad ar ecosystem Môr Hafren ac ar iechyd rhywogaethau pysgod; y trefniadau ar gyfer carthu a gwaredu morol ym Mastiroedd Caerdydd; trefniadau cynllunio brys ac wrth gefn; a'r berthynas rhwng cyfundrefnau rheoleiddio a chynllunio yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r adroddiad hwn yn ffynhonnell dystiolaeth a chyngor gwerthfawr. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried prosiectau mawr trwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd economaidd ac amgylcheddol Môr Hafren a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n gwaith mewn perthynas â'r ddau.

https://gov.wales/goblygiadau-hinkley-point-c-adroddiad-annibynnol