Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddodd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ei adroddiad ar arolygiad o gyfleusterau corffdy o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a gynhaliwyd ar 9 a 10 Awst 2017.

Mae'r adroddiad yn nodi diffygion sylweddol yn erbyn nifer o safonau, gan gynnwys diffygion sy'n ymwneud â'r gallu i olrhain, y safle, a’r trefniadau llywodraethu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio i wella'r diffygion hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Er nad oedd modd i mi wneud datganiad cyhoeddus cyn i’r Awdurdod gyhoeddi’r adroddiad, rwyf wedi trafod y mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Cadeirydd, a hefyd mae fy swyddogion wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda'r prif weithredwr a'r tîm gweithredol.

Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn asiantaeth reoleiddio sy'n trwyddedu ac yn arolygu sefydliadau sy'n cadw ac yn defnyddio meinweoedd dynol at ddibenion megis ymchwil, trin cleifion, cynnal archwiliadau post-mortem, addysgu, ac arddangosfeydd cyhoeddus.  

Fel rhan o'i swyddogaeth reoleiddio, mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cynnal arolygiadau o sefydliadau trwyddedig. O dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Awdurdod i ffurfio barn ynghylch addasrwydd yr unigolyn dynodedig; y sawl sy'n ymgeisio am drwydded (deiliad); y safle a’r arferion sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau trwyddedig.

Mae’r Awdurdod yn cyhoeddi 13 o safonau y mae'n rhaid i sefydliadau trwyddedig eu bodloni, cynnal arolygiadau sy'n mesur yn erbyn y safonau hyn a sicrhau bod y prosesau priodol yn cael eu dilyn. Bydd sefydliadau'n cael eu harolygu'n rheolaidd, fel arfer bob tair blynedd i bum mlynedd yn ôl y risg bosib, gan ganolbwyntio ar y rhai risg uwch  oherwydd natur ei weithgarwch a'r effaith ar gleifion a theuluoedd, pe bai pethau'n mynd o chwith.

Rhaid i bob sefydliad trwyddedig benodi unigolyn dynodedig y mae arno ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gofynion statudol a rheoleiddiol yn cael eu bodloni. Mae'n gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau trwyddedig a sicrhau bod yr arferion priodol ar waith.

Mae adroddiadau arolygu'r Awdurdod yn seiliedig ar y safonau nad ydynt wedi eu bodloni, a dim ond y safonau hyn sy'n cael eu cynnwys ynddynt. Os bydd yr Awdurdod yn barnu bod safon heb ei bodloni, bydd lefel y diffyg yn cael ei chategoreiddio fel difrifol iawn, sylweddol neu lai difrifol. Os bydd safonau'r Awdurdod wedi eu bodloni, ond bod yr Awdurdod wedi nodi y gellid gwella arferion, rhoddir cyngor ar hynny i'r unigolyn dynodedig.

Yn yr arolygiad rheolaidd diweddaraf o gyfleusterau corffdy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, nodwyd diffygion yn erbyn nifer o'r safonau a oedd dan sylw, gan gynnwys materion yn ymwneud â'r gallu i olrhain, y safle, a’r trefniadau llywodraethu. Nodwyd tri diffyg difrifol iawn, 14 diffyg sylweddol a 9 diffyg llai difrifol. Roedd y tri diffyg difrifol iawn yn ymwneud â'r gallu i olrhain samplau post-mortem, y trefniadau cofnodi a’r trefniadau ar gyfer eu rheoli.

Pennodd yr Awdurdod amserlen ar gyfer cymryd nifer o gamau i ddatrys y problemau a nodwyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflawni gwaith sylweddol ers i'r arolygiad gael ei gynnal ac ers iddo dderbyn yr adroddiad arolygu drafft ar 6 Medi. Mae cynllun gwella wedi ei roi ar waith, a hyd yn hyn mae wedi bodloni pob un o'r terfynau amser a bennwyd gan yr Awdurdod. Mae cynllun gweithredu mwy tymor hir ar waith er mwyn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill. Roedd y camau a gymerwyd yn cynnwys penodi unigolyn dynodedig newydd a chynnal archwiliad o'r holl  gofnodion sy'n gysylltiedig â meinweoedd post-mortem sy'n cael eu cadw yn y corffdy ar hyn o bryd. Mae'r gwaith o roi sylw i'r materion sy'n ymwneud â chyfleusterau yn parhau i fynd rhagddo.

Mae’r Awdurdod eisoes wedi cynnal ymweliad arall â’r safle i gynnal arolygiad dilynol, ac mae’n fodlon ar y cynnydd a wnaed yn sgil cymryd camau i unioni’r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad cychwynnol.

Rwy’n teimlo’n siomedig iawn ynghylch y diffygion a nodwyd, ac mae gwaith pellach i’w wneud o hyd i sicrhau bod y safle’n cydymffurfio’n llwyr. Mae holl Brif Weithredwyr y GIG wedi cael eu hatgoffa o gyfrifoldebau byrddau iechyd i gydymffurfio â Deddf Meinweoedd Dynol 2004, a'r rheoliadau, codau ymarfer a safonau cysylltiedig. Bydd swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol yn parhau i fonitro’r camau unioni ac atal a gymerir er mwyn darparu sicrwydd o ran y cynnydd a wneir mewn perthynas â’r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad.

Mae copi o'r adroddiad arolygu ar gael ar wefan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol