Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Chwefror 2012, gofynnodd fy swyddogion i’r Athro Syr Steve Smith wneud gwaith ymgynghorol ar gynigion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ad-drefnu Addysg Uwch yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae fy swyddogion bellach wedi derbyn adroddiad yr Athro Smith ar gynigion penodol CCAUC y dylai Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno i greu un brifysgol fetropolitan tebyg i’r rheini mewn dinas-ranbarthau o faint tebyg ledled y DU.Rwy’n sicrhau bod adroddiad yr Athro Smith ar gael i’r cyhoedd. Mae’n crynhoi ei safbwyntiau yn dilyn ystyriaeth o’r holl dystiolaeth a chyfarfodydd gyda’r holl randdeiliaid allweddol. Mae’n adroddiad clir, cytbwys a chadarn ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Smith am ei waith ar hwn. Mae ei gymorth wedi bod yn amhrisiadwy.