Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw bydd Estyn yn cyhoeddi ei adroddiad yn amlinellu canlyniad ei arolwg o Flaenau Gwent (a gynhaliwyd rhwng 21 a 25 Ionawr 2013). Rwy’n llunio’r datganiad hwn i dynnu sylw’r Aelodau at y dyfarniadau y mae Estyn wedi’u gwneud yn dilyn yr arolwg diweddaraf.
Mae’r arolwg hwn yn adeiladu ar yr arolwg blaenorol o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol ym mis Mai 2011. Yn dilyn yr arolwg hwnnw gwelwyd bod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn ogystal â rhagolygon yr awdurdod ar gyfer gwelliant yn anfoddhaol. Yng ngoleuni’r diffygion hyn, rhoddwyd mesurau arbennig ar yr awdurdod.
Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn cynnwys beirniadaeth barhaus o berfformiad yr awdurdod lleol. Gwelodd y ddau ddyfarniad cryno cyffredinol fod perfformiad presennol gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc yn parhau i fod yn anfoddhaol, a bod rhagolygon yr awdurdod lleol ar gyfer gwelliant yn parhau i fod yn anfoddhaol. Barn Estyn yw bod yr awdurdod yn parhau i fod yn y categori dilynol o fod angen Mesurau Arbennig.
Rwyf yn bryderus iawn o weld canfyddiadau Estyn. Mae’n annerbyniol bod yr awdurdod wedi methu unwaith eto i fynd i’r afael â’r materion gyda’r cyflymder a’r brys sydd ei angen. Mae’r methiannau hyn yn parhau i ddangos gwendidau difrifol yn y broses o reoli’r gwasanaethau addysg gan yr awdurdod.
Mae aelodau’r cynulliad yn ymwybodol fod Cyfarwyddyd wedi’i roi ar Flaenau Gwent, ble’r wyf wedi penodi Comisiynydd Addysg i swydd lawn amser i gynorthwyo proses yr awdurdod o wella yn benodol. Mae’r Cyfarwyddyd yn pennu bod swyddogaethau addysg gweithrediaeth yr awdurdod yn cael eu cyflawni gan fy Nghomisiynydd. Rwyf hefyd wedi sefydlu Bwrdd Perfformiad Strategol i gynorthwyo gyda gwaith y Comisiynydd. Mae’r Bwrdd hwn yn cynnwys y Comisiynydd, uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolaeth o CLlLC, a chynrychiolydd o’r consortia addysg rhanbarthol. Swyddogaeth y Bwrdd yw cynnig her a chymorth i swyddogion ac aelodau’r Cyngor o ran gwasanaethau addysg yr awdurdod.
O ran gwaith y Comisiynwyr, y Bwrdd a’r consortia rhanbarthol, mae adroddiad Estyn yn tynnu sylw at ddatblygiadau – er enghraifft mae’r dyfarniad o ran y cymorth ar gyfer gwella ysgolion wedi gwella i fod yn foddhaol. Gwelodd yr arolygiaeth fod gwasanaeth gwella ysgolion y consortiwm wedi gwneud cynnydd da yn gwella prosesau i gefnogi’r her ac i ymyrryd mewn ysgolion. Fodd bynnag maent yn tynnu sylw at y ffaith fod y trefniadau hyn yn gymharol ddiweddar, ac nad ydynt hyd yma wedi cael amser i gael effaith ar safonau cyrhaeddiad mewn ysgolion.
Er bod fy swyddogaeth fel Comisiynydd yn canolbwyntio ar sbarduno gwelliannau mewn ysgolion a pharatoi’r awdurdod ar gyfer y cyfnod pryd y daw yr ymyrraeth i ben, mae yn amlwg bod llawer o waith i’w wneud eto gan yr uwch-reolwyr a’r tîm arweinyddiaeth i ddod â’r awdurdod at bwynt ble y bydd hyn yn bosibl. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod ganddynt y gallu na’r awydd i gyflawni hyn.
Ni ellir osgoi’r ffaith fod y gwelliannau wedi bod yn araf a bod safon yr arweinyddiaeth o fewn yr awdurdod ei hun wedi bod yn anghyson neu ddim yn ddigon effeithiol, ac nid yw’r swyddogion wedi blaenoriaethu camau i ddod â gwelliant.
Fel y mae Estyn wedi nodi, mae’r datblygiadau mwyaf diweddar gan yr awdurdod wedi’i arwain yn bennaf gan y Comisiynydd a’r cyfarwyddwyr adfer, gan nad yw’r arweinwyr a’r rheolwyr o fewn yr awdurdod ei hun eto heb sefydlu llwybr cynaliadwy o newid a gwelliant. Mae adroddiad Estyn fodd bynnag yn tynnu sylw at y ffaith bod aelodau etholedig wedi gwneud datblygiadau sylweddol ac wedi newid eu ffordd o weithio. Mae yr aelodau mewn sefyllfa well i gyfarwyddo a herio swyddogion ac mae trefniadau craffu bellach yn fwy cadarn.
Mae’n bwysig nodi hefyd bod adroddiad Estyn yn cyd-fynd ag Adroddiad Gwelliant Blynyddol diweddar Swyddfa Archwilio Cymru 2011/12 a welodd fod “problemau diwylliannol, problemau perfformiad a phroblemau arweinyddiaeth hirdymor, yn ogystal â gallu corfforaethol cyfyngedig wedi arwain at anghysondebau a gwendidau yn null y cyngor o gynllunio, trefnu a chyflawni gwasanaethau gwell ar gyfer ei ddinasyddion”.
Mae gwendidau systematig o fewn yr awdurdod ac felly nid oes gennyf unrhyw hyder y bydd Blaenau Gwent yn datrys y problemau hyn ei hun, hyd yn oed gyda chymorth fy Nghomisiynydd. Rwyf bron ag ystyried ymyraethau eraill gan gynnwys yr opsiwn i uno’r gwasanaeth addysg gydag awdurdod lleol arall.
Rwy’n cyfarfod â’r Comisiynydd ddydd Llun 20 Mai i gael ei barn a byddaf hefyd yn trafod y materion hyn â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Unwaith y byddaf wedi penderfynu pa newidiadau ddylai ddigwydd rhoddaf y newyddion diweddaraf yn llawn i aelodau’r Cynulliad.