Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:


Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu o’r gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Rydym yn gwneud y datganiad hwn er mwyn hysbysu’r aelodau am y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad.
Barn gyffredinol y tîm arolygu oedd bod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol ar hyn o bryd, ac roedd hefyd o’r farn nad oedd yn argoeli’n dda ar gyfer gwelliannau yn yr awdurdod lleol, a bod y sefyllfa’n anfoddhaol yn hynny o beth. Yng ngoleuni’r diffygion hynod ddifrifol hyn, mae Estyn o’r farn bod angen cyflwyno mesurau arbennig yn yr awdurdod hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn un hynod ddamniol - does dim dwywaith am hynny. Mae’r diffygion a nodwyd yn annerbyniol, ac rydym wedi gweithredu’n gyflym i roi trefniadau yn eu lle i sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol.
Dyma ganfyddiadau allweddol Estyn:
O ran perfformiad ar hyn o bryd, canfu’r Arolygiad faterion allweddol mewn amryw o feysydd. Er enghraifft, mae’r safonau ar gyfer plant a phobl ifanc yn is na’r disgwyl ym mhob cyfnod allweddol; mae’r cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn annerbyniol o isel; bernir bod y gwasanaeth gwella ysgolion yn annigonol; nid oes digon o gynnydd wedi’i wneud o ran cynllunio ar gyfer lleoedd mewn ysgolion; nid yw arweinyddiaeth weithredol wrth gyflwyno addysg wedi ysgogi gwelliannau mewn meysydd lle mae tanberfformio, ac nid yw ysgolion a swyddogion wedi cael eu dwyn i gyfrif; ac nid yw prosesau cynllunio busnes ac asesu risg wedi bod yn ddigon trylwyr i nodi ac i fynd i’r afael ag arafwch y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y gwasanaethau addysg ac mewn ysgolion.
Barnwyd bod y rhagolygon o ran gwella yn anfoddhaol oherwydd bod tanberfformio ar lefel gwasanaeth ers cryn amser a bod y camau a gymerwyd i ysgogi gwelliant wedi bod yn rhy araf yn y gorffennol i sicrhau’r arolygwyr bod modd gwella yn dilyn yr arolygiad hwn heb her a chefnogaeth o’r tu allan.
Roedd y canfyddiadau a’r argymhellion yn adroddiad Estyn yn destun cryn bryder i ni. Mae’r gwasanaeth o fewn yr awdurdod mewn sefyllfa annerbyniol ac mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i’r afael â’r problemau.
Wrth gwrs, mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei redeg eisoes gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru. Fe’u penodwyd ym mis Mawrth 2011 i fynd i’r afael â methiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth gorfforaethol a llywodraethu. Ar y lefel gorfforaethol honno y mae rôl a chylch gwaith y Comisiynwyr hynny. Ni chawsant eu penodi i wella’r gwasanaeth addysg nac unrhyw wasanaeth penodol arall. Mae’n ddigon posibl bod y problemau corfforaethol y maent wedi bod yn mynd i’r afael â hwy wedi cyfrannu at y methiannau ym maes addysg yn ystod y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn adroddiad Estyn. Felly, mae’n rhaid i’r gwaith o adfer y gwasanaeth addysg fynd law yn llaw â’r gwaith adfer corfforaethol sy’n cael ei arwain gan y Comisiynwyr.
Mae Comisiynwyr Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da yn eu gwaith. O ran llywodraethu corfforaethol, nid yw’r Cyngor bellach yn bell o sefyllfa lle y gallwn ystyried rhoi peth grym yn ôl i Gynghorwyr, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd y Comisiynwyr. Ond ni ddylai hynny dynnu dim oddi ar gryfder na difrifoldeb canfyddiadau Estyn nac oddi ar yr angen i fynd i’r afael â hwy yn ddi-oed. Bydd y Comisiynwyr, mae’n amlwg, yn rhan o hynny.
Rydym, felly, yn bwriadu sefydlu Bwrdd Adfer i gefnogi ac i gynghori Comisiynwyr Llywodraeth Cymru ac i herio a chefnogi swyddogion ac aelodau’r Cyngor yng nghyswllt gwasanaethau addysg Ynys Môn. Mae’r dull hwn yn debyg i’r un a ddefnyddiwyd gyda gwasanaethau addysg Sir Ddinbych yn 2008. Y prif wahaniaeth yw y bydd y Comisiynwyr yn gallu ymyrryd yn uniongyrchol oni fydd y Cyngor yn cymryd camau digonol neu’n gweithredu’n gyflym i unioni’r sefyllfa.  
Bydd un o uwch-swyddogion addysg Llywodraeth Cymru ac un o uwch-swyddogion addysg CLlLC yn aelodau o’r Bwrdd. Bydd Cadeirydd yn cael ei benodi i’r Bwrdd, ac, i gwblhau’r trefniadau cychwynnol, bydd dau weithiwr addysg proffesiynol hefyd yn cael eu penodi; byddwn yn cyhoeddi manylion pellach yn eu cylch yn y man. Bydd y Bwrdd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidogion, gan ddarparu adroddiadau misol rheolaidd am y sefyllfa ddiweddaraf. Mae’n fwriad gennym fynd ati ymhen chwe mis i adolygu’r cynnydd y bydd y Bwrdd wedi’i wneud, a’r effaith y bydd wedi’i chael.
O ystyried natur anfoddhaol y sefyllfa, ein blaenoriaeth, o reidrwydd, yw sicrhau bod her a chefnogaeth ddigonol i sicrhau gwelliannau ar gyfer plant a phobl ifanc yr ardal cyn gynted ag y bo modd. O’r herwydd, byddwn yn cwblhau’n trefniadau arfaethedig cyn gynted ag y bo modd, ac yn sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi ar fyrder.
Wrth bwyso a mesur yr opsiynau, rydym ni a’n swyddogion yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod ateb priodol a phendant yn ei le cyn gynted â phosibl.  Rydym yn falch o nodi eu bod i gyd yn llwyr gefnogi’n dull o weithredu yn hyn o beth a’u bod wedi cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu’r ateb hwnnw. Yn benodol, mae’n dda gweld bod arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn, a’r swyddogion sy’n ei arwain, wedi derbyn canfyddiadau’r adroddiad yn llawn, wedi croesawu’r ffaith bod Bwrdd wedi’i benodi sydd â’r un amcanion â’r broses sy’n mynd rhagddi i adfer y sefyllfa llywodraethu corfforaethol, a’u bod wedi ymrwymo o’r dechrau i ymgysylltu’n effeithiol â’r Bwrdd er mwyn unioni’r sefyllfa. Nid oes unrhyw arwydd o’r gwadu a’r agwedd hunanfodlon a welwyd mewn mannau eraill yn ddiweddar.  Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr aelodau am i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad ailymgynnull, byddem yn hapus i wneud hynny.