Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Bydd adroddiad a gomisiynwyd gan Fwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe,  ‘Strategaeth Twf Dinas-ranbarth Bae Abertawe’, yn cael ei gyhoeddi heddiw.   Mae’r adroddiad yn gosod gweledigaeth gadarn ar gyfer y Ddinas-ranbarth ac yn dangos yn glir bod angen dinas ffyniannus wrth ei chalon.   Mae’r adroddiad yn cydnabod potensial enfawr Dinas-ranbarth Bae Abertawe ac yn cynnig sylfeini ar gyfer dyfodol mwy ffyniannus, gan gynnwys:
  • Gwell defnydd o asedau sydd eisoes yn bodoli;
  • Denu buddsoddiad, pobl a gweithgarwch newydd i’r rhanbarth;
  • Ystyried rhai prif brosiectau i gynorthwyo gyda’r trawsnewid.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig nifer o brosiectau blaenllaw a fyddai’n caniatáu i’r ddinas gyflwyno gweledigaeth gadarn ar gyfer y dyfodol a hyrwyddo’i hasedau helaeth o fewn y rhanbarth a thu hwnt.   Hoffwn gymeradwyo Bwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe am eu gwaith, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Cadeirydd i fynegi fy nghefnogaeth i’r cyfeiriad sy’n cael ei ddilyn ganddynt.   Yn amlwg, mae angen rhagor o waith a thrafodaeth bellach, yn arbennig pan fo buddsoddiad sylweddol yn cael ei gynnig. Mae’r cam hwn yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad, ac rwyf wedi gofyn i Fwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe, dan arweiniad Syr Terry Matthews, i ysgogi trafodaethau o fewn y rhanbarth.   Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses i’r Aelodau.  Ceir copi o’r Adroddiad yn: