Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 11 Gorffennaf, ar adeg cyhoeddi Papur Gwyn ar ofal a chymorth yn Lloegr, rhyddhaodd Llywodraeth y DU adroddiad cynnydd ar ddyfodol talu am ofal cymdeithasol. Roedd hyn yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiwn ar Dalu am Ofal a Chymorth yn Lloegr (Comisiwn Dilnot).

Yn ei hadroddiad cynnydd, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei bod yn derbyn egwyddor y prif argymhellion a wnaed gan y Comisiwn, sef cyflwyno cap oes ar gost y gofal y mae rhywun yn ei dderbyn, a chynnydd yn y trothwy asedau ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl (yr uchafswm cyfalaf). Mae hefyd wedi datgan ei bwriad i roi’r newidiadau hyn ar waith, ond wrth wneud yr ymrwymiad hwn, mae wedi tynnu sylw at y ffaith fod hyn yn golygu her ariannol sylweddol iawn yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. O’r herwydd, mae wedi datgan y bydd angen ystyried, fel rhan o’r adolygiad nesaf o wariant yn hydref 2013, sut a phryd y dylid cyflwyno newidiadau o’r fath.      

Rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU bellach wedi ymateb i adroddiad y Comisiwn, ac wedi awgrymu sut y mae’n bwriadu symud ymlaen yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’n siom i mi nad yw’r ymateb hirddisgwyliedig hwn yn mynd y tu hwnt i’r prif ymrwymiad hwn a nodi manylion sut a phryd y caiff yr argymhellion hynny eu rhoi ar waith.

Byddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ers tro i greu system newydd o dalu am ofal cymdeithasol Nghymru, a bod honno’n deg, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae ein polisïau yng Nghymru yn ein gosod ar y blaen ym maes gofal a chymorth effeithiol. Er enghraifft, y llynedd fe wnaethom ni gyflwyno uchafswm wythnosol o £50 am y gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl y bydd rhywun yn eu derbyn ac sydd dan ein deddfwriaeth ni. Mae’n bleser gennyf weld bod pobl ledled Cymru bellach yn elwa ar y newid hwnnw.  Diddorol yw nodi bod y Comisiwn wedi dilyn dull pragmataidd a syml tebyg wrth wneud yr argymhelliad hwn ynglŷn â chapio cyfraniad oes unigolyn tuag at eu gofal, a bod Llywodraeth y DU wedi derbyn egwyddor y dull hwnnw fel ffordd ymlaen.

Fodd bynnag, mae safbwynt Llywodraeth y DU, fel y’i nodir yn yr adroddiad cynnydd, yn golygu problem fawr i ni wrth geisio symud yr agenda hon yn ei blaen ar hyn o bryd. Rydym yn amcangyfrif y byddai’r gost o weithredu newidiadau tebyg yng Nghymru i’r rhai sydd yn Adroddiad y Comisiwn, petaem ni’n dymuno hynny, tua £100 miliwn y flwyddyn yn ôl costau heddiw, gan godi yn y blynyddoedd sydd i ddod gydag effaith newidiadau demograffig.  Felly, byddem yn cael ein rhwystro rhag cymryd camau ar y raddfa hon heb i fuddsoddiad o arian newydd ddod i Gymru dan fformiwla Barnett, yn debyg i’r symiau sylweddol y ceisir eu cael yn Lloegr dan yr adolygiad nesaf o wariant a gynhelir gan Lywodraeth y DU.

Diddorol i mi oedd gweld bod datganiad Llywodraeth y DU yn cynnwys cynigion ar gyfer gofynion gorfodol i ohirio talu costau gofal fel nad oes angen gwerthu cartref y teulu er mwyn symud i ofal preswyl. Yng Nghymru, bu gennym Reoliadau yn eu lle ers 2003 sy’n caniatáu taliadau gohiriedig am lety preswyl, a Chyfarwyddiadau sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i dynnu sylw pob preswylydd cymwys a phosibl at y taliadau gohiriedig, a’u cynnig iddynt. Cyflwynwyd y newid hwn trwy drosglwyddo £2.7 miliwn o adnoddau ar gyfer llywodraeth leol i’r Grant Cynnal Refeniw. Pan fydd manylion cynigion Llywodraeth y DU ar gael, byddwn yn ymgynghori â llywodraeth leol a rhai sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr gofal i weld a oes angen ystyried cryfhau’r trefniadau ar gyfer taliadau gohiriedig yng Nghymru.  

Wrth baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dyfodol, gwyddoch ein bod ni eisoes yng Nghymru wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar dalu am ofal, ac fe wnaethom ni ymgynghori’n eang gydag ystod eang o randdeiliaid ymhob rhan o Gymru i weld pa fath o system a fyddai’n derbyn cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd yma yng Nghymru. Yn fwy diweddar, rwyf wedi ail-sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid i Gynghori am Dalu am Ofal, ac wedi gofyn iddo ystyried rhinweddau argymhellion y Comisiwn a pha mor briodol ydynt i Gymru. Mae wrthi’n llunio ei adroddiad ar fy nghyfer, a byddaf yn cyhoeddi hwnnw wedi imi ei dderbyn. Hefyd, yng ngoleuni’r bwriadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu datgan ynglŷn â gwneud rhagor o waith ac ymgynghori ar y gwahanol opsiynau sy’n bodoli ar gyfer y math o system ddiwygio y gellid ei chael, byddwn ni hefyd eisiau parhau ac ymestyn y trafod yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, buaswn hefyd eisiau sefydlu deialog trawsbleidiol ynglŷn â ffyrdd o ymdrin â’r mater pwysig hwn.    

Mae’r materion y mae datganiad Llywodraeth y DU a’i Phapur Gwyn yn tynnu sylw cyffredinol atynt yn rhai heriol ond yn flaenoriaeth uchel. Dyna pam fy mod, yng Nghymru, wedi nodi ein cyfeiriad polisi yn ein Papur Gwyn, ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, ac wedi cwblhau ymgynghoriad eang ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a gaiff ei gyflwyno i ddiben craffu yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy’n falch o adrodd bod cytundeb barn cryf o blaid ein cynlluniau.