Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth 10 mlynedd, “Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed”, i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru ym mis Hydref 2008. Mae'r Strategaeth yn nodi ein hagenda genedlaethol glir ar gyfer lleihau a mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac mae'n ymdrin â phedwar maes â blaenoriaeth:

  • Atal niwed;
  • Cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau – rhoi cymorth iddynt ymadfer a dal ati;
  • Cynorthwyo ac amddiffyn teuluoedd;  
  • Mynd i’r afael ag argaeledd ac amddiffyn unigolion a chymunedau drwy weithgarwch gorfodi.
Mae ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn dystiolaeth bellach o'r pwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar yr agenda heriol hon.

Ym mis Chwefror 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau newydd ar gyfer 2013 – 15 sy'n ategu'r Strategaeth ac yn nodi'r camau y byddwn ni a'n partneriaid yn eu cymryd dros y 2-3 blynedd nesaf er mwyn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Llywiwyd y blaenoriaethau yn y cynllun cyflawni gan ymgynghoriad â rhanddeiliaid a chanfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol o brosesau ar gyfer tair blynedd gyntaf y strategaeth camddefnyddio sylweddau.

Mae'r cynllun cyflawni, sy'n cwmpasu pedwar nod allweddol y strategaeth, yn darparu rhaglen waith heriol ac fe'i datblygwyd gan ganolbwyntio'n bennaf ar wella canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n dioddef oherwydd camddefnyddio sylweddau.

Er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn mae'n rhaid i ni gydweithio â phartneriaid ar draws yr agenda camddefnyddio sylweddau er mwyn sicrhau y parheir i wneud cynnydd.  Eleni, mae'r gwaith partneriaeth hwn wedi ein galluogi i gyflawni nifer o gamau gweithredu allweddol fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau 2013 yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw.  Er enghraifft, rydym wedi cyhoeddi Compendiwm Iechyd a Lles newydd, y bwriedir iddo hysbysu a helpu'r sawl sy'n cynllunio gwasanaethau, comisiynwyr, darparwyr camddefnyddio sylweddau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ehangach sy'n gweithio gyda'r rheini â phroblemau sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd. Rydym wedi cymryd cam pwysig arall ymlaen drwy gyhoeddi canllawiau newydd ar sefydlu systemau integredig ar gyfer darparu gwasanaethau seiliedig ar adferiad. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau seiliedig ar adferiad a fydd yn llywio arfer ac yn gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau. Byddwn yn gweithio nawr i helpu comisiynwyr, cynllunwyr a darparwyr i ymgorffori'r arferion hyn mewn prosesau darparu gwasanaethau.

Drwy'r Gronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mwy na £32.5 miliwn er mwyn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau sydd wedi'i gwneud yn bosibl i ddarparu gwasanaethau ledled Cymru. Fel y dengys yr ystadegau diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae'r buddsoddiad hwn yn cael effaith wirioneddol am ein bod yn gweld gwelliant parhaus o ran amseroedd aros a gofnodir ar gyfer unigolion sy'n cael triniaeth a hefyd leihad yn nifer yr unigolion sy'n gorfod cael triniaeth. Byddwn yn parhau i weithio gyda gwasanaethau er mwyn sicrhau y parheir i wneud cynnydd o ran canlyniadau triniaeth.

Mae cynnydd da yn parhau i gael ei wneud o ran cyflawni ein hymrwymiadau allweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, sy'n cynnwys marwolaethau o ganlyniad i wenwyno cysylltiedig â chyffuriau a marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau, yn dal i fod yn flaenoriaeth a gwelwyd lleihad yn nifer y marwolaethau yn y ddau gategori hyn am yr ail flwyddyn yn olynol. Er hynny, gwyddom fod modd atal y rhan fwyaf o'r marwolaethau hyn ac, felly, rydym wrthi'n ymgynghori ar gynigion i wella ein prosesau adolygu systematig ar gyfer achosion o wenwyno angheuol a heb fod yn angheuol gan gyffuriau er mwyn sicrhau y gallwn ostwng cyfraddau ymhellach.

Mae adferiad cynaliadwy, hirdymor o gamddefnyddio sylweddau yn dibynnu ar wella'r canlyniadau cymdeithasol ac economaidd i ddefnyddwyr gwasanaethau.  Felly, mae'n braf gweld cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cael budd o Brosiect Mentora Cymheiriaid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Erbyn diwedd Mehefin 2013, roedd y prosiect wedi gweithio gydag 8,800 o gyfranogwyr ledled Cymru, ac roedd 799 o'r rheini wedi cael gwaith cyflogedig. Yn wreiddiol, roedd disgwyl i'r prosiect llwyddiannus hwn ddod i ben ym mis Medi 2013 ond rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ymestyn am chwe mis o fis Medi 2013 hyd at fis Mawrth 2014.  Byddwn yn troi ein sylw nawr at sicrhau y caiff rhaglenni newydd Cronfa Strwythurol Ewrop ar gyfer 2014-20 eu defnyddio i helpu'r grŵp cleientiaid hwn.

Mae lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio Alcohol yn dal i fod yn her wirioneddol. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r holl ddulliau polisi sydd ar gael i ni yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, gan gynnwys deddfwriaeth lle mae cyfle i wneud hynny. Rydym hefyd yn parhau i ddefnyddio mentrau codi ymwybyddiaeth i hysbysu a rhybuddio unigolion am beryglon camddefnyddio alcohol a'r llynedd nodwyd ein bod wedi ymestyn cwmpas ein rhaglen Newid am Oes er mwyn cynnwys atal camddefnyddio alcohol.  Ym mis Mawrth 2013, ail-lansiodd Llywodraeth Cymru ‘Paid â gadael i'r ddiod dy ddal di'n slei bach’, sef ymgyrch alcohol Newid am Oes. Nod yr ymgyrch oedd cyrraedd unigolion sy'n yfed mwy na'r lefelau a argymhellir, er ei bod yn bosibl na fyddent yn cyfrif eu hunain yn unigolion â phroblem yfed. Ym mis Hydref, lansiodd y Prif Swyddog Meddygol Becyn Cymorth Alcohol mewn Addysg Uwch a fydd yn helpu Prifysgolion i gofnodi arferion yfed y myfyrwyr ac mae'n cynnwys canllaw cam wrth gam ar lunio polisïau effeithiol ar alcohol a'u rhoi ar waith.

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac mae heriau sylweddol yn ein hwynebu yn ystod y flwyddyn i ddod. Byddaf yn gofyn i'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau ystyried rhai o'r heriau hyn, gan gynnwys ystyried y materion/ymyriadau ar gyfer alcohol a chyffuriau mewn poblogaeth sy'n heneiddio a rhoi cyngor ar b'un a ddylid ychwanegu at ymateb polisi Llywodraeth Cymru ynghylch gwerthu a thrwyddedu Alcohol, gan dderbyn natur annatganoledig rhai o'r materion.

Byddwn hefyd yn diweddaru'r Fframwaith Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau i gynnwys rhannu arferion da o safbwynt ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Hefyd, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella iechyd a lles aelodau o'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, byddwn yn cyhoeddi canllawiau er mwyn ceisio hwyluso'r gwaith o nodi cyn-filwyr â phroblemau camddefnyddio sylweddau a'i gwneud yn haws iddynt gael gafael ar driniaeth.

Mae'r adroddiad atodedig yn rhoi crynodeb manylach o'r cynnydd a wnaed o ran rhoi ein Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau 10 mlynedd a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig ar waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Drwy barhau i fuddsoddi a chefnogi, byddwn yn sicrhau bod lleihau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru a chefnogi'r rhai sy'n delio â'i effeithiau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.