Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ddeng mlynedd “Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed” ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae’r strategaeth yn gosod agenda genedlaethol glir ar gyfer ymateb i’r problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru a lleihau’r niwed sy’n digwydd yn eu sgil. Mae’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu yn dystiolaeth bellach o bwysigrwydd yr agenda heriol hon i Lywodraeth Cymru.

Wedi’r newid yn y portffolios Gweinidogol ym mis Ebrill 2012, fy nghyfrifoldeb i yw’r agenda camddefnyddio sylweddau erbyn hyn, a hynny yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae symud hyn yn ôl i’m portffolio i wedi creu cyfle gwerthfawr i adolygu a chryfhau’r cysylltiadau â’r agenda iechyd ehangach.  

Mae’n amlwg na all Llywodraeth Cymru wireddu’r weledigaeth sydd yn y strategaeth ar ei phen ei hun, a rhaid inni barhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn llwyddo. Drwy weithio mewn partneriaeth fel hyn y llynedd, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno Naloxone gam wrth gam i bob un o’i safleoedd triniaeth yn y gymuned ac mewn carchardai. Mae’r cyffur hwn, sy’n gwrth-droi’r effeithiau dros dro os bydd rhywun yn cymryd gorddos o gysglyn (opiate), yn ddull hanfodol o leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, sef un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys hefyd yn treialu’r cyffur, yn ogystal  â pharafeddygon sy’n trin pobl sydd wedi cymryd gorddos.

Rydym hefyd yn symud ymlaen i gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu ar ddiogelu. Rydym yn cryfhau’r trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, drwy’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Mae’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn mynd rhagddo hefyd, a dechreuodd consortia rhanbarthol weithredu ar draws ardaloedd Dyfed Powys a Chaerdydd a’r Fro y llynedd.  

Rydym hefyd yn benderfynol o fynd i’r afael â’n diwylliant o oryfed mewn pyliau ac rydym wedi ehangu ein rhaglen Newid am Oes i gynnwys atal camddefnyddio alcohol. Mae’r rhaglen yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o lefelau yfed ac i gyfleu mor niweidiol i iechyd yw goryfed, yn y tymor hir.

Cychwynnwyd gweithio ar adolygiad cynhwysfawr o’r strategaeth bresennol y llynedd, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni gofynion yr agenda hon. Fel rhan o hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso effaith y strategaeth ers iddi gael ei chyhoeddi yn 2008. Disgwyliwn i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi cyn hir, a bydd y casgliadau sy’n dod i’r amlwg yn bwydo i mewn i’r gwaith o gwblhau ein cynllun gweithredu nesaf.

Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ymateb i’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae sawl her fawr yn ein hwynebu yn ystod y flwyddyn sydd o’n blaenau. Mae camddefnyddio alcohol yn dal i achosi pryder inni.

Rydym yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i gryfhau’r ddeddfwriaeth ar brisio alcohol a’i gwneud yn anoddach cael gafael arno, ac ar yr un pryd, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau cefnogi priodol ar gael i’r rheini sydd eu hangen. Rydym hefyd yn ymwybodol fod mwy o bobl yn cymryd cyffuriau seicoweithredol newydd, ac mae’r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cyfrannu at ein gwaith er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu addysg a negeseuon cyson ar atal a lleihau niwed.  

Mae’r adroddiad amgaeedig yn rhoi crynodeb o hynt y gwaith o weithredu’r strategaeth newydd a sut mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi cyflawni’r prif gamau a nodir yn y cynllun gweithredu sy’n ei hategu.