Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rwy’n falch o hysbysu ynghylch cyhoeddi Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2020-21 ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cynnydd mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.
Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae adroddiadau cynnydd blynyddol blaenorol wedi mynd i’r afael yn benodol â chynnydd mewn perthynas â’r amcanion a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol ar VAWDASV. Er hyn, rhaid cydnabod bod cyfnod yr adroddiad hwn yn rhychwantu’r pandemig byd-eang COVID-19.
Felly, yn briodol, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r sector arbenigol, dros y cyfnod adrodd i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae hefyd yn tynnu sylw at y camau gweithredu parhaus sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r amcanion a nodir yn ein Strategaeth Genedlaethol.
Hoffwn ddiolch i’r sector VAWDASV ac i’r gwasanaethau arbenigol am eu hymateb a’u cymorth parhaus i ddioddefwyr yn ystod y pandemig. Maent wedi bod yn achubiaeth i lawer ac wedi dangos gallu eithriadol i addasu.
Yn ystod 2020-2021, fe wnaethom ddarparu cyllid newydd sylweddol i’r sector, gyda mwy na £4 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i ddelio ag effeithiau COVID-19. Mae wedi caniatáu i wasanaethau hanfodol barhau i ddelio â’r galw cynyddol sydd wedi’i achosi yn sgil y pandemig.
Er hyn, nid yw’r pandemig wedi dod i ben eto a rhaid i’r gwaith barhau i fynd i’r afael ag effeithiau parhaus COVID-19.
Mae VAWDASV hefyd ar feddwl y cyhoedd yn dilyn achosion uchel eu proffil diweddar. Mae trais gan ddynion yn cael ei drafod, yn ogystal â’r angen i fynd i’r afael â chasineb at fenywod ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau fel achosion sylfaenol VAWDASV.
Rydym bob amser wedi bod yn glir ynghylch ein huchelgais i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud hynny. Gan adeiladu ar waith y llynedd, byddwn yn parhau i gymryd camau tuag at gyflawni ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.