Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
Roedd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i adrodd ar y cynnydd o ran gweithredu ei Strategaeth Tlodi Plant, a lansiwyd yn 2011. Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad cynnydd cyntaf heddiw, 29 Tachwedd 2013. Rydym mor benderfynol ag erioed o gyrraedd ein targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae’r targed hwn yn canolbwyntio ein hymdrechion i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a lleihau nifer y plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Ers i’r Strategaeth Tlodi Plant gael ei chyhoeddi yn 2011, mae cynnydd gwirioneddol wedi digwydd i alinio blaenoriaethau strategol y Rhaglen Lywodraethu, y Strategaeth Tlodi Plant, y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Ein nod, ar draws y llywodraeth gyfan, yw trechu tlodi – ac rydym yn seilio ein hymdrechion ar y dystiolaeth, y gwerthuso a’r arferion da dros y tair blynedd ddiwethaf. Drwy weithio’n gydlynol fel hyn, mae gwell siawns y byddwn yn gallu gwella’r canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi.
Mae’r adroddiad cynnydd cyntaf hwn yn nodi nifer o ddatblygiadau allweddol yng Nghymru:
- Mae canran y plant sy’n byw mewn aelwydydd heb waith wedi gostwng ers 2009.
- Mae canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau wedi mynd i lawr bob blwyddyn ers 2006.
- O gymharu â 2009/10, roedd y bwlch cyrhaeddiad addysgol wedi lleihau ychydig yn 2001/12 rhwng y rhai oedd yn gymwys am ginio ysgol am ddim a gweddill y disgyblion ysgol.
Er bod peth cynnydd wedi’i wneud dros y tair blynedd ddiwethaf, nid oes unrhyw amheuaeth bod gennym dasg anodd o’n blaenau; mae effaith y toriadau cyllideb wedi gorfodi Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus cyfan i ailystyried eu ffyrdd o weithio. Mae gwendid yr economi dros y blynyddoedd diwethaf, y cynnydd yn ein costau byw a’r newidiadau i’r system les yn debygol o wthio pobl ymhellach i dlodi.
Ond serch hynny, rydym mor benderfynol ag erioed o drechu tlodi plant gyda’r arfau sydd ar gael i ni, ac mae ein camau gweithredu unigryw ni yma yng Nghymru yn arwydd o hynny. Er enghraifft, rydym yn rhoi pwyslais cryf ar wella sgiliau pobl ifanc mewn cartrefi incwm isel; lleihau nifer yr aelwydydd lle nad oes unrhyw un yn gweithio; codi cyrhaeddiad addysgol y rhai o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a buddsoddi mewn gwasanaethau i helpu plant sy’n cael eu magu mewn cymunedau tlawd.
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd yn hollbwysig buddsoddi i ddileu’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad. Drwy godi lefelau cyrhaeddiad a gwella sgiliau, gallwn helpu pobl ifanc ac oedolion i symud i swyddi â chyflogau da. Bydd hyn yn helpu i leihau’r lefelau o dlodi ym mysg y rhai sydd mewn gwaith – math o dlodi sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’n ffaith mai yn nwylo Llywodraeth y DU y mae llawer o’r arfau polisi allweddol – megis newidiadau i’r system drethi a budd-daliadau – sy’n gysylltiedig â threchu tlodi incwm. Yn ddi-os, mae’r newidiadau diweddar i’r system drethi a budd-daliadau wedi cyfrannu at faint yr her a wynebwn. Ond mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i’w chwarae hefyd, o ran gwella canlyniadau cyflogaeth, addysg, sgiliau ac iechyd y teuluoedd sydd ar incwm isel.
Rwy’n credu ein bod yn gwneud mwy ac yn mynd ymhellach na Llywodraeth y DU, ac rydym mor benderfynol ag erioed o weithredu. Rydym yn disgwyl gwneud cynnydd pellach drwy ein Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi sy’n gosod targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer trechu tlodi plant a gwella canlyniadau teuluoedd ar incwm isel. Byddwn yn defnyddio tystiolaeth y gwerthusiad o’r Strategaeth Tlodi Plant wrth benderfynu ble dylid buddsoddi ymhellach i gael y cyfle gorau posibl i drechu tlodi plant.
Rydym yn cydnabod na allwn drechu tlodi ar ben ein hunain. Mae gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector lawer i’w gyfrannu o ran trechu tlodi, a llawer i’w ennill hefyd. Mae Llywodraeth Cymru mor ymroddedig ag erioed i weithio gyda’n partneriaid i gyflawni amcanion ein Strategaeth Tlodi Plant i Gymru a’n Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi.