Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Hoffwn hysbysu aelodau fod CThEM wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae’n ofynnol i CThEM adrodd ar y ffordd mae’n gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y ffordd mae CThEM yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys:
- gweithgareddau cydymffurfio (gan gynnwys nodi trethdalwyr yng Nghymru),
- casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano,
- gwasanaethau a chymorth i gwsmeriaid,
- data ar gyfer pennu a rhagolygu CTIC,
- data ar gyfer rheoli arian Llywodraeth Cymru
- cost darparu CTIC ac ailgodi tâl am gostau CThEM.
Mae’r gwaith o weinyddu CTIC bellach wedi symud i gyfnod busnes fel arfer, gan ganolbwyntio ar gynnal a diweddaru systemau a gwella ymwybyddiaeth o CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae strwythur llywodraethu ffurfiol ar waith i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth mae trethdalwyr Cymru yn ei dderbyn yn gyson, ac i alluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad ar gael yn:
Cyfraddau Treth Incwm Cymru – Adroddiad Blynyddol CThEM 2021 (GOV.UK)