Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wythfed adroddiad blynyddol 'Cyflwr yr Ystad', sy'n rhoi manylion ynghylch effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol 2015/16.

http://llyw.cymru/about/civilservice/how-we-work/facts-figures/our-buildings/state-of-the-estate-report-2015-2016/?lang=cy

Fel y dywedwyd yn ein cyhoeddiad ar gyllideb ddrafft 2017-18, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i weithredu mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol o ganlyniad i raglen Llywodraeth y DU o gyni parhaus, ac nid oes unrhyw arwydd y bydd hyn yn newid yn fuan. Felly rhaid i ni wneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau, yn arbennig yr adeiladau a'r swyddfeydd sy'n rhan o'n hystad weinyddol.

Mae'n hystad yn parhau i berfformio'n dda o ran effeithlonrwydd, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae'n hymgais i leihau costau wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r cynnydd hwn yn parhau i fod yn nod pwysig ac yn her sylweddol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Yn ôl yr adroddiad, rydym wedi llwyddo eto i wella ansawdd ac effeithlonrwydd yr ystad gan barhau i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau yn y gofynion yn y dyfodol.


Yn ystod 2015/16 rydym wedi llwyddo i wneud y canlynol:

  • gostwng yr eiddo sy'n cael ei ddefnyddio 12%;
  • gostwng cost yr ystad o £18.14 miliwn i £17.43miliwn;
  • gostwng ein hallyriadau carbon 18% i 6,939t CO2.

Mae Strategaeth Leoli 2015-20 yn darparu gweledigaeth strategol ar gyfer yr ystad. Gallai'r cynlluniau ad-drefnu arwain at arbedion o tua £3.46 miliwn ynghyd ag arbed £2.52 o gostau rhedeg blynyddol o 2020 ymlaen. Mae'r Strategaeth hefyd yn cynnal ein hymrwymiad i gael presenoldeb ar draws Cymru o ran lleoliadau a swyddogaethau, gan sicrhau presenoldeb priodol, gwasgaredig i'r llywodraeth a chyfrannu at fanteision economaidd drwy ddosbarthu swyddi.

Mae'r adroddiad eleni yn tynnu sylw at y llwyddiant sylweddol a gafwyd yn lleihau'n heffaith ar yr amgylchedd. Llwyddodd ein Strategaeth Lleihau Carbon i sicrhau gostyngiad sylweddol o 45% yn ein hallyriadau carbon ers 2010/11; ac rydym wedi llwyddo i arbed 18% eleni yn unig. Roedd ein dull gweithredu o ymgymryd ag ystod amrywiol o weithgareddau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn arbennig o lwyddiannus, ac fe fydd yn parhau i gyfrannu at arbedion pellach dros y blynyddoedd nesaf. Bydd parhau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn flaenoriaeth allweddol o hyd, ac fe fyddwn yn glynu at ein hymdrechion i osod arferion cynaliadwy ar draws yr ystad wrth geisio gwneud gostyngiadau pellach.

Mae'r Strategaeth yn mynnu ein bod yn manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd ein hystad a lleihau ein costau gweithredu. Bydd y camau hyn yn helpu'r sefydliad i ymdopi o fewn ei gyllidebau yn y dyfodol, ac yn caniatáu i ni gyfeirio  adnoddau i le y mae fwyaf eu hangen; cyflawni ein hamcanion rheng flaen sydd â’r nod o greu Cymru well a mwy ffyniannus.