Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft at ddibenion  ymgynghori. Rwyf yn falch o gyhoeddi heddiw adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw.

Hoffwn ddiolch i’r 187 o ymatebwyr am eu sylwadau. Roedd cefnogaeth i lawer o’r agweddau ehangach ar y Bil Drafft ym maes diwygio yn arbennig y rhai sy’n anelu at wella ansawdd llywodraethu ac ansawdd gwasanaethau. Er hynny, nid oedd consensws ar strwythur Llywodraeth Leol yn y dyfodol.

Er bod yr achos o blaid newid yn glir, ac yn cael ei gydnabod yn eang, nid yw’r  ymatebion yn darparu cytundeb tebyg ar atebion i rai o’r heriau allweddol.

Dros yr haf byddaf yn edrych ar yr holl ddewisiadau ac yn ystyried yr holl syniadau sy’n cael eu cyflwyno imi.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y ffordd ymlaen yn yr Hydref.