Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rwy’n croesawu’r adroddiad diweddaraf hwn gan yr Arglwydd Burns a’i dîm a’r sylfaen dystiolaeth gadarn sy’n sail iddo.
Mae’n galondid gweld pwyslais yr adroddiad ar yr angen am rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig i fynd i’r afael â thagfeydd yng Nghasnewydd a rhanbarth y De-ddwyrain. Mae’n argymell gwella leiniau lliniaru’r De-ddwyrain, fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ac amlfoddol. Dyma arwain y ffordd tuag at ddewis tymor hir a chynaliadwy yn lle’r car preifat yn y rhan hon o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru’n credu mai dyma’r ffordd gywir ymlaen a byddwn yn chwarae ein rhan lawn i droi hyn yn realiti.
Bydd y drafnidiaeth gyhoeddus honno yn rhoi’r cadernid i’r rhwydwaith yng Nghasnewydd a’r rhanbarth fel y nodir yn ein rhaglen ar gyfer Metro’r De. Bydd yr adroddiad hwn ac adroddiad terfynol y Comisiwn yn ddiweddarach eleni yn ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y Metro yn y rhan honno o Gymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Yn dilyn sefydlu cyfnod clo’r Covid ym mis Mawrth, mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus wedi wynebu her heb ei thebyg. Gyda llai o deithwyr i’w cludo, nid yw ein gwasanaethau bws a thrên wedi bod yn ennill incwm o docynnau i gynnal eu gwasanaethau. Testun balchder imi felly yw ein bod wedi neilltuo arian ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael parhau, ond rwy’n sylweddoli y bu’n gyfnod hynod anodd i’r cwmnïau. Hoffwn gofnodi yn y fan hon fy niolch i’r holl staff sydd wedi gweithio mor galed i gadw’r gwasanaethau i fynd fel bod gweithwyr allweddol wedi gallu parhau i deithio.
Ar 2 Gorffennaf, cyhoeddais y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau. Yn ogystal â diwallu anghenion brys tymor byr, mae’r cynllun yn gychwyn ar bartneriaeth hir rhwng cwmnïau a chyrff cyhoeddus fydd yn gweddnewid y rhwydwaith bysiau yng Nghymru gan gefnogi moddau trafnidiaeth a’r rhyngweithio rhyngddynt, gan gynnwys system docynnau clyfar, creu llwybrau unedig ac amserlenni integredig. Rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda’r diwydiant bysiau, awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i greu rhwydwaith bysiau effeithiol, cynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol.
Rwy’n gwbl gefnogol i’r uchelgais i ddefnyddio prif lein y De fel asgwrn cefn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth, yn arbennig gwella’r leiniau lliniaru rhwng Twnnel Hafren a Chaerdydd er mwyn cael mwy o gymudwyr i ddefnyddio’r rhwydwaith trwy ddarparu gorsafoedd a gwasanaethau newydd.
Mae adroddiad Comisiwn Burns wedi tynnu sylw at yr angen i bob partner ddod ynghyd a chwarae ei ran i droi’r argymhellion yn realiti. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei dyletswyddau hithau o ran bysiau, gwella ffyrdd a theithio llesol. Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu tîm cyflawni ar y cyd, ac i adrodd yn ôl amdano, fel rhan o dasglu ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd er mwyn sicrhau dull gweithredu amlasiantaeth, amlgyllidwr i hwyluso’r broses o gyflawni’r rhaglen uchelgeisiol hon.
Nid yw’r seilwaith rheilffyrdd y tu allan i leiniau’r Cymoedd wedi’i ddatganoli i Gymru ac er mwyn mynd ati i wella’r leiniau lliniaru yn unol ag argymhelliad yr adroddiad, bydd angen i Lywodraeth y DU hithau chwarae ei rhan.
Roedd Network Rail wedi rhoi blaenoriaeth i wella’r leiniau lliniaru yn 2016 yn dilyn addewid gan Chris Grayling i ddatblygu opsiynau ar gyfer y lein yn sgil y penderfyniad i beidio â thrydaneiddio’r lein i Abertawe yn 2017. A hithau bellach yn 2020, dydyn ni byth wedi cael ymrwymiad i ariannu’r gwelliannau mawr eu hangen hyn.
Cyhoeddais ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd, “Rheilffyrdd i Gymru” llynedd fel ymateb i Adolygiad Rheilffyrdd Williams gan Lywodraeth y DU y disgwyliwyd ei adroddiad yn yr Hydref. Rydyn ni’n dal i ddisgwyl yr adroddiad hwnnw. Rydyn ni’n dal i ddisgwyl hefyd i Lywodraeth y DU ymateb i’n galwad am ddatganoli’r rheilffyrdd yn llwyr i Gymru ac am setliad ariannu teg. Cefnogwyd yr alwad hon gan fwyafrif yn Senedd Cymru yn dilyn ein dadl ym mis Chwefror 2019.
Hefyd, bydd angen i Lywodraeth y DU roi’r hawl i Trafnidiaeth Cymru redeg gwasanaethau ychwanegol y tu hwnt i Gyffordd Twnnel Hafren, neu i gynnal gwasanaethau ychwanegol trwy ei gontractau ei hun. Mae darparu mwy o wasanaethau bob awr rhwng y De a Llundain yn rhan o Gynllun Busnes Network Rail 2020. Er bod y cwmni sydd â’r rhyddfraint wedi dweud yn glir nad yw am gynnal y gwasanaethau hyn, rydyn ni’n gefnogol i gynlluniau gweithredwyr eraill i gynnal gwasanaethau amlach, gan gynnwys cynnig Grand Union Trains i ddarparu mwy o lawer o wasanaethau rhwng Caerfyrddin a Llundain, a fyddai’n cynyddu’r gwasanaethau yn Llanelli, Abertawe a Chaerdydd. Rydyn ni’n gobeithio y gwnaiff y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ganiatáu inni ddechrau’r gwaith paratoi er mwyn i’r gwasanaethau allu dechrau yn ddiweddarach yn 2021.
Er bod datganoli’r rheilffyrdd yn llwyr yn hanfodol i ni wireddu ein huchelgais, rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r camau y gallwn ni eu cymryd nawr i fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu. Ym mis Mawrth, gwnaethon ni drosglwyddo perchenogaeth Leiniau’r Cymoedd sy’n teithio o orsaf Stryd y Frenhines, Caerdydd. Gall Trafnidiaeth Cymru felly brysuro’r gwaith o weddnewid yr ased gwerthfawr na fu digon o fuddsoddi ynddo yn rhwydwaith o ansawdd uchel ac aml ei drenau sy’n ateb gofynion yr 21ain ganrif.
Rydyn ni’n buddsoddi yn rhaglen y Metro, a’r seilwaith sydd ei angen arnynt. Rwyf wedi gorchymyn Trafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaeth ychwanegol ar Lein Glynebwy yn 2021 ac rydyn ni’n parhau i roi cymorth ariannol i Gyngor Dinas Casnewydd ar gyfer eu cynlluniau teithiau llesol. Yng ngoleuni argymhellion adroddiad Burns, mae angen i ni wneud mwy ar y cyd â Chasnewydd a rhanddeiliaid a phartneriaid eraill i wneud y newidiadau angenrheidiol i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
Rwy’n cyhoeddi dau gynllun strategol heddiw i ddangos ein huchelgais ar gyfer y gwasanaethau rheilffyrdd ar draws prif leiniau’r Gogledd a’r De. Byddan nhw’n ysgogi ein penderfyniadau polisi, yn tywys ein cynlluniau ariannol ac yn arwydd i gyllidwyr ac asiantaethau darparu eraill beth ydym yn ei ddisgwyl ganddynt o ran ymrwymo i rwydwaith rheilffyrdd Cymru, ac i fuddsoddi ynddo. Maen nhw’n cynnwys gwasanaethau newydd ac amlach yn y Gogledd a’r De yn ogystal â chynlluniau mwy tymor hir fel llwybrau newydd ac ailagor llinellau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i droi gweledigaeth Burns yn realiti ond nid ni yw’r unig bartner sydd â chyfrifoldeb am y gwaith hwn. Byddwn yn gwireddu’n huchelgais ar gyfer Cymru a’i rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ond gan alw yr un pryd ar i Lywodraeth y DU gwblhau o’r diwedd ei hadolygiad o’r rheilffyrdd, a datganoli’r rheilffyrdd yn llwyr i Gymru. I gyd-fynd â hyn, rhaid cael setliad ariannu teg er mwyn inni allu bwrw ymlaen â’n rhaglen ddatblygu uchelgeisiol a dechrau unioni blynyddoedd o danfuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Nid yw pobl Casnewydd yn haeddu tamaid llai.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.