Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw rwy’n croesawu cyhoeddi Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2019/2020. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud ag ail flwyddyn y gwaith o weithredu dwy dreth ddatganoledig Cymru, sef y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu cynnydd parhaus yr awdurdod o ran adeiladu ar ei enw da o fod yn fedrus a thrwyadl wrth gasglu a rheoli’r ddwy dreth hyn. Mae’r awdurdod yn parhau i hyrwyddo dull gweithredu ar y cyd ar gyfer casglu trethi, gan weithio gyda threthdalwyr a’u hasiantau i sicrhau bod trethi’n cael eu casglu mewn modd effeithiol ac effeithlon, drwy fod mwy o drethdalwyr yn talu’r dreth gywir ar y cynnig cyntaf.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r newidiadau y mae’r awdurdod wedi eu cyflwyno i’r system drethu er mwyn ei gwneud yn haws i’r trethdalwyr ei defnyddio. Mae hyn wedi gweithio’n eithriadol o dda yn achos y 98% o ddatganiadau a gafodd eu ffeilio’n ddigidol, a hefyd y 98% a rhagor a gafodd eu ffeilio ar amser. At ei gilydd, mae’r awdurdod wedi casglu ychydig o dan £300 miliwn mewn refeniw treth.
Yn ystod 2019/2020, parhaodd yr awdurdod i wella ei berfformiad, drwy ei fod wedi canolbwyntio ar weithgareddau megis lleihau risg treth unigol a chynnal gweithgareddau addysgol ac ymgysylltu, ymhlith pethau eraill. Roedd hyn wedi helpu i sicrhau bod unigolion yn talu’r swm iawn wrth dalu eu trethi, gwaith a oedd yn cynnwys casglu cyllid pan fo taliadau’n rhy fach, a hefyd dalu’n ôl pan fo ordaliadau’n digwydd.
Mae’r sefydliad wedi llwyddo i gynnal ei wasanaethau yn wyneb yr heriau sydd wedi codi, yn gyntaf o’r llifogydd a effeithiodd ar ei brif swyddfa yn QED, Trefforest, ac a orfododd y swyddfa honno i gau, ac wedyn effeithiau’r pandemig COVID-19 ers mis Mawrth.
Dyma enghraifft wych o’r manteision a ddaw o ddatganoli – gan fod datganoli’n ein galluogi ni yma yng Nghymru i arloesi, gan greu ein dull ein hunain o weithredu system dreth sy’n sicrhau canlyniadau gwell i drethdalwyr ac sy’n ymdrin yn effeithiol ac yn effeithlon â’r risgiau cysylltiedig. Bydd y cyllid hwn yn aros yng Nghymru ac yn cael ei wario ar bobl Cymru wrth inni fynd ati i wella ein gwasanaethau cyhoeddus.
Hoffwn longyfarch Awdurdod Cyllid Cymru ar flwyddyn lwyddiannus arall o gasglu a gweinyddu trethi. Mae’r awdurdod yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth inni ddatblygu ar ein taith i ddatganoli trethi.
Mae adroddiad a chyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2019/2020 ar gael drwy glicio ar y ddolen isod:
Saesneg: https://gov.wales/welsh-revenue-authority-annual-report-accounts-2019-2020
Cymraeg: https://llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru-adroddiad-blynyddol-chyfrifon-2019-2020