Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Yr wythnos diwethaf, roedd yn 5 mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod yn rhan o gyfraith Cymru. Y ddeddf hon oedd y gyntaf o’i math yn y byd, ac mae wedi newid sut mae Cymru yn mynd ati i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sydd wedi helpu Cymru i dorri ei chwys ei hun yw gwaith y comisiynydd annibynnol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, wedi helpu i weithredu’r newid hwn ac i gynnal y ffocws ar y tymor hir. Ar 4 Mai 2020, fel rhan o’i dyletswyddau statudol, cyhoeddodd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf ar y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn.
Mae cyhoeddi dau adroddiad bob 5 mlynedd, un gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac un gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhan annatod o gylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. O dan y gyfraith, mae’n ofynnol cyhoeddi’r adroddiadau hyn un diwrnod ac un flwyddyn cyn cynnal etholiad cyffredinol (sy’n golygu mai’r dyddiad cyhoeddi yw 5 May 2020). Gyda’i gilydd, mae’r ddau adroddiad yn darparu asesiad diwedd cyfnod o sut mae’r Ddeddf wedi cael ei gweithredu.
Mae’r ddau’n cael eu cyhoeddi yn erbyn cefndir y pandemig COVID-19, ac mae llawer o’r cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddeddf yn rheng flaen yr ymateb i heriau’r argyfwng coronafeirws. Mae adroddiadau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau yn adlewyrchu’r cyd-destun hwn, gan ei wneud yn glir nad ydynt yn disgwyl i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddarparu ymateb i’r adroddiadau yn y tymor byr. Rwy’n diolch iddynt am eu safbwynt o ran hynny.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn pwysleisio pwysigrwydd rôl arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y Gweinidogion a’r Gwasanaeth Sifil yn ystyried y casgliadau a’r argymhellion yn ystod y misoedd nesaf.
Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau mewn modd dramatig iawn, a bydd ei effaith ar bob un ohonom ni, ac ar ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, a’n cymunedau, yn enfawr ac yn parhau am amser maith. Ni fydd modd dychwelyd at sefyllfa o fusnes fel arfer, ac mae angen inni gynllunio ar gyfer Cymru, sydd, er yn cydnabod effeithiau’r feirws, yn wlad fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd, yn unol â’n hymrwymiad i sicrhau cyfiawnder economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol.Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ymuno â’r Rhwydwaith ar gyfer Llywodraethau Economi Llesiant, a byddwn yn gweithio gyda’r Alban, Gwlad yr Iâ, a Seland Newydd – sydd i gyd â’r un uchelgais o sicrhau a gwella llesiant drwy eu dulliau gweithredu economaidd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gyda’i saith nod llesiant, yn cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru a gafodd ei chytuno gan y Senedd yn ôl yn 2015, ac mae’n ddeddf sy’n darparu seiliau cadarn i’n harwain drwy fyd sydd bellach yn anghyfarwydd. O ran y tymor hir, mae ymgysylltu â phobl, cydgysylltu polisïau a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, cydweithredu ar draws pob sector, a chanolbwyntio ar waith atal, i gyd yn hanfodol er mwyn inni allu gweithio’n fwy effeithiol gyda phobl a chymunedau, yn ogystal â gyda’n gilydd, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau heriol megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd, a’r newid yn yr hinsawdd. Yn natganiad y Prif Weinidog ar Fframwaith i Arwain Cymru allan o'r Pandemig Coronafeirws, mae Deddf Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan o’r egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio i edrych ar y mesurau arfaethedig ar gyfer llacio’r cyfyngiadau presennol, gwaith a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac yn ystyried yr effeithiau ehangach.
Rhagor o wybodaeth
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020
https://futuregenerations.wales/welsh
Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy