Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Yn dilyn fy natganiadau ysgrifenedig ym mis Chwefror 2008, mis Gorffennaf 2009 ac ar 30 Mawrth 2010, mae’n dda gennyf allu dweud wrthych bod yr adroddiad gan Fwrdd Prosiect Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed bellach wedi dod i law. Yn yr adroddiad hwn, mae’r Bwrdd yn rhoi cyngor ac argymhellion ar drefniadau amddiffyn oedolion yng Nghymru a sut y gellir cryfhau’r trefniadau hynny ymhellach i sicrhau eu bod yn parhau’n briodol ac yn gadarn, heddiw ac yn y dyfodol. Cyhoeddir copi o’r adroddiad ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n hawl sylfaenol na ddylai’r un ohonom orfod dioddef oherwydd camfanteisio, camdriniaeth nac esgeulustod. Ers cyhoeddi canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ yn 2000, gwelwyd newid sylweddol yn ein dulliau diogelu. Bellach defnyddir dulliau cydlynol nad oedd yn bodoli 10 mlynedd yn ôl i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed. Hefyd, mae mwy o ddealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â cham-drin. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith wedi dod i ben a rhaid parhau i ddatblygu ein trefniadau amddiffyn, gan sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl er mwyn i ni allu cael gwared ar gamdriniaeth yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Bwrdd am yr adroddiad hwn ac am eu holl waith caled. Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r Bwrdd wedi rhoi cyngor gwerthfawr i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar nifer o faterion yn ymwneud ag amddiffyn oedolion. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt.
 

Mae adroddiad y Bwrdd yn defnyddio’r cwmpas eang o ddeunydd y mae wedi’i ystyried hyd yn hyn. Yn fwyaf penodol, mae’n defnyddio nifer o adroddiadau pwysig ym maes amddiffyn oedolion, gan gynnwys: yr adolygiad gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg, o ‘Mewn Dwylo Diogel’, sef ein prif ganllawiau statudol ar amddiffyn oedolion agored i niwed; adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), sef ‘Arolygiad Cenedlaethol o Amddiffyn Oedolion – Trosolwg Cymru Gyfan’; ac adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), ‘Diogelu ac Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed yng Nghymru’ sy’n adolygu’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn oedolion agored i niwed sydd ar waith ar draws y GIG yng Nghymru. Hefyd gwahoddodd y Bwrdd sylwadau gan randdeiliaid ledled Cymru ar yr adroddiadau hyn, er mwyn i’r sylwadau hynny fod yn rhan o’i drafodaethau.

Mae’r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad cyffredinol. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer trefniadau amddiffyn oedolion yng Nghymru. Wrth ystyried y mater hwn, mae cyfyngiad ar ba mor bell y caiff y Bwrdd fynd o ran awgrymu ffurfiau ar ddeddfwriaeth newydd, gan fod yn rhaid aros i gael canlyniadau adolygiad Comisiwn y Gyfraith o’r gyfraith sy’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amddiffyn oedolion. Hefyd rhaid aros am ganlyniad y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae wedi nodi’n glir nifer o faterion allweddol y bydd angen eu hystyried wrth ddatblygu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, ar ôl cael canlyniadau’r adolygiad a’r refferendwm.

Mae’r ail argymhelliad cyffredinol yn galw am gyhoeddi canllawiau newydd yn lle canllawiau “Mewn Dwylo Diogel”. Mae’r canllawiau hyn yn ymgorffori ein dull gweithredu sylfaenol ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru ac roeddent yn arloesol pan gawsant eu llunio. Bellach maen nhw wedi bod ar waith ers 10 mlynedd, ac mae llawer wedi newid yn y ddeng mlynedd hynny. Felly, mae’r Bwrdd yn nodi nifer o feysydd lle gellid gwella’r canllawiau a chryfhau’r trefniadau ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru.

Mae’r Bwrdd hefyd yn galw am gryfhau’r arweiniad cenedlaethol ac yn argymell bod trefniadau’n cael eu gwneud i sefydlu Fforwm Cenedlaethol ar Amddiffyn Oedolion sydd â chylch gwaith tebyg i eiddo’r Fforwm Diogelu Plant. Mae hynny’n cyd-fynd â sylwadau rhanddeiliaid bod angen i’r gwaith o amddiffyn oedolion yng Nghymru elwa unwaith eto o gael Grŵp Cynghori ar gyfer Cymru Gyfan - safbwynt a gefnogir gan Gydgysylltwyr Amddiffyn Oedolion a chadeiryddion y fforymau rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau o’r farn bod trefniadau Amddiffyn Oedolion yn flaenoriaeth uchel ac mae hefyd yn parhau wedi ymrwymo i sicrhau bod y trefniadau hynny’n effeithiol er mwyn amddiffyn oedolion agored i niwed rhag cael eu cam-drin.

Rwyf wedi ystyried argymhellion y Bwrdd gan eu defnyddio fel sail i ffurfio’r syniadau ar gyfer gwella trefniadau amddiffyn oedolion a nodir yn y Papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth nesaf y Cynulliad fydd penderfynu ar y manylion penodol.