Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig 2018-19 wedi'i gyhoeddi heddiw.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu trosolwg cenedlaethol o'r gronfa yn 2018-19 ac yn disgrifio sut mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi defnyddio cyllid y Gronfa i helpu i ddatblygu'r broses o integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Ers ei sefydlu yn 2014-15, mae'r Gronfa wedi esblygu’n rhaglen fawr fel y mae hi heddiw. O gronfa ar wahân oedd â'r nod o gadw pobl hŷn yn annibynnol ac allan o'r ysbyty neu ofal preswyl, mae bellach yn darparu cymorth integredig mawr ei angen i lawer mwy o ddinasyddion sydd ag anghenion gofal a chymorth gan gynnwys y rheini ag anabledd dysgu, awtistiaeth, plant ag anghenion cymhleth, gofalwyr ac, yn fwy diweddar, plant sydd ar ffiniau gofal.

Rydym yn falch o’r ffaith, ar draws holl ranbarthau Cymru, fod y Gronfa yn ariannu prosiectau a gwasanaethau sy'n darparu gofal iechyd a chymdeithasol di-dor i bobl, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar a helpu pobl i fyw eu bywydau yn eu ffordd eu hunain. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y gronfa'n gwneud cyfraniad sylweddol i’n helpu ni i gyflawni ein hymrwymiadau yn Cymru Iachach, sy'n ddull allweddol o gyflawni deddfwriaeth drawsnewidiol Deddf Gwasanaethau a Llesiant (Cymru) 2014.

Rydym yn glir bod y Gronfa wedi cael ei defnyddio i gefnogi amrywiaeth eang o ffyrdd newydd ac arloesol o weithio sydd â'r potensial i ddylanwadu ar batrymau gofal a chymorth yn y dyfodol ac mewn rhai achosion llety, er gwell. Erbyn hyn mae yna dimau amlddisgyblaeth niferus o weithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, tai a thrydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu ymyriadau wedi'u teilwra i helpu unigolion i gyflawni eu nodau llesiant a gwella ansawdd eu bywyd.

Mae'r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi sicrhau bod prosiectau'r Gronfa wedi bod yn arloesol, yn integredig ac yn ataliol. Yn 2018-2019, cafodd cyfanswm o £59m o gyllid rhaglen y Gronfa ei glustnodi ar gyfer prosiectau refeniw, a chafodd £30m o gyllid rhaglen y Gronfa ei glustnodi i gynhyrchu prosiectau cyfalaf ar draws Cymru drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r adroddiad hwn yn dangos rhai o'r prosiectau a'r gwasanaethau ardderchog sydd wedi cael eu datblygu a'u cefnogi gan y Gronfa Gofal Integredig.

Mae nifer o'r modelau cyflawni newydd a ddatblygwyd ac a brofwyd drwy'r Gronfa wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi ffurfio sylfaen rhaglenni trawsnewid ar raddfa fwy a ariennir drwy'r Gronfa Trawsnewid newydd.

Does dim dwywaith bod y Gronfa wedi sbarduno newid sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu datblygu a'u darparu.  Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2019 yn cydnabod cyfraniad pwysig y Gronfa at gefnogi'r gwaith o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a datblygu byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Drwy wneud gwell defnydd o adnoddau drwy gydweithio a thrwy symud oddi wrth ffyrdd traddodiadol o weithio, mae'r Gronfa’n cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal i ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac i gael eu darparu yn y cartref neu'n agosach ato. O ganlyniad, mae hyn yn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau GIG a gofal cymdeithasol hanfodol.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i'r Gronfa ddangos y defnydd gorau o arian cyhoeddus hefyd a bod angen darparu tystiolaeth glir o'i heffaith. I gefnogi hyn, byddwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion o adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o'r Gronfa fel y gallwn gymryd yr hyn a ddysgir o brosiectau unigol a disgrifio manteision ac effeithiau'r Gronfa ar lefel rhaglen genedlaethol.

Bydd adroddiad blynyddol y Gronfa yn rhannu rhai o'r pwyntiau allweddol a ddysgwyd drwy gyflawni'r rhaglen, gan edrych i'r dyfodol i benderfynu sut y byddwn yn ceisio gwella'r rhaglen ymhellach yn 2019-21. Gan edrych i'r dyfodol, ein hymrwymiad ar hyn o bryd yw ariannu'r Gronfa tan 2021. Bydd unrhyw raglen ariannu yn y dyfodol yn cael ei llywio gan ein gwerthusiad arfaethedig o'r gronfa a'r gwersi a ddysgir o'r rhaglen gyfredol.

Yn olaf, hoffem gydnabod gwaith rhagorol yr holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddarparu'r Gronfa ac wrth lunio'r adroddiad hwn. Hoffem hefyd gydnabod rôl hollbwysig timau staff Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglenni gwaith y Byrddau’n effeithiol ac o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni’r uchelgeisiau sydd yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a ‘Cymru Iachach’.

Drwy weithio gyda'n gilydd, mewn partneriaeth, rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.