Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn llunio cynllun sy'n amlinellu sut y maent, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn bwriadu cynnal a hyrwyddo Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd y cynigion a amlinellwyd yn y cynllun eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn cyflwyno copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwyf wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2015-16 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw. Mae'r adroddiad yn ymdrin â gwaith y flwyddyn ariannol flaenorol, sef blwyddyn derfynol y Cynulliad diwethaf.

http://www.assembly.wales/laid documents/gen-ld10897/gen-ld10897-w.pdf