Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Teithio Llesol 2016/17, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar y cynnydd o ran gweithredu’r Ddeddf a’r Cynllun Gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016.
Bu 2016/17 yn flwyddyn bwysig o ran gweithredu'r Ddeddf. Cafodd y gyfres gyntaf o Fapiau Llwybrau Presennol ar gyfer y 142 o drefi a dinasoedd ledled Cymru, sy'n 'lleoliadau dynodedig' o dan y Ddeddf eu cymeradwyo. Dyma’r pwynt cychwyn gwirioneddol ar gyfer datblygu seilwaith cerdded a beicio o safon uchel yng Nghymru. Eleni fe ddechreuodd y gwaith ar y cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau integredig ym mhob un o'r mannau hyn. Bydd y Mapiau Rhwydwaith Integredig dilynol yn pennu'r cynlluniau y bydd yr awdurdodau lleol yn ceisio eu cwblhau dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys uchelgeisiau mwy hirdymor ar gyfer y llwybrau teithio llesol.
Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol wedi nid yn unig gysylltu â phobl sydd eisoes yn cerdded ac yn beicio ond eu bod hefyd wedi edrych am ffyrdd effeithiol o gynnwys pobl nad ydynt yn cerdded neu'n beicio’n rheolaidd ar hyn o bryd, ac wedi chwilio am ffyrdd o gynnwys y bobl hynny nad ydynt yn cerdded neu feicio yn rheolaidd. Oherwydd hyn, rwyf eisoes wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r mapiau i 3 Tachwedd 2017 ar gyfer pob awdurdod er mwyn sicrhau ymgynghoriad a thrafodaethau ystyrlon heb eu tarfu gan y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â chyfnod etholiadau llywodraeth leol eleni.
Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid i greu'r ddeddfwriaeth, trwy ddarparu cyngor ar gamau allweddol a galluogi cyfnewid profiad yn ystod y cyfnod cyntaf hwn o weithredu’r ddeddfwriaeth, sy’n unigryw ledled y byd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a'i hamcanion llesiant bellach yn llunio ein blaenoriaethau ni a chyrff eraill y sector cyhoeddus. Mae annog teithio llesol yn golygu ein bod yn cyfrannu at bob un o'r saith nod llesiant, ac mae’n cynnig cyfleoedd enfawr ar lefel genedlaethol a lleol. Edrychwyd ar sut y gellid gwneud hyn mewn modd ymarferol yn ein cynhadledd lwyddiannus yn gynharach eleni.
Ar draws adrannau, rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o gynnwys teithio llesol yn ein polisïau, ein cynllunio a’n rhaglenni i gael pobl i gerdded a beicio. Rydym eisoes wedi cryfhau ein polisïau a’n canllawiau cynllunio ac yn ei gynnwys yn ein dull o werthuso prosiectau cyfalaf. Rydym wedi parhau i fuddsoddi symiau sylweddol yn y seilwaith teithio llesol; mewn grantiau ar gyfer prosiectau lleol a'n rhwydwaith ein hunain, gan gynnwys y llwybr beicio gwerth £5 miliwn a adeiladwyd fel rhan o Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae.
Mae ein rhaglen uchelgeisiol Teithiau Iach wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, gyda llawer mwy o blant yn dewis cerdded, mynd ar sgwter neu feicio i’r ysgol. I ategu’r Teithiau Iach, rydym wedi comisiynu pecyn Cerdded i’r Ysgol y gall pob ysgol a’r gymuned yn ehangach ei ddefnyddio i edrych ar lwybrau cerdded i’r ysgol a gweld sut y gellid eu gwella i ddileu rhwystrau.
Gan nad yw’r cylch gweithredu llawn wedi ei gwblhau eto, nid yw’r Ddeddf Teithio Llesol wedi gallu cael effaith fesuradwy eto ar lefelau cerdded a beicio. Rydym yn benderfynol o wyrdroi tueddiadau ehangach byd-eang sy’n golygu bod llai o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgarwch gorfforol, ac yn benodol i annog a galluogi pobl Cymru i wneud llawer mwy o deithiau bob dydd drwy gerdded a beicio.
Mae’r penderfyniad hwn yn amlwg yn ein strategaeth genedlaethol “Ffyniant i Bawb”, sy’n ymrwymo i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus integredig ac i gyfuno pob mathau o drafnidiaeth gyda cherdded a beicio. Bydd gwella’r seilwaith ar gyfer teithio llesol yn galluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw mwy egnïol a chynyddu’r gweithgarwch corfforol yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Byddwn yn gweithio hyd yn oed yn galetach ar draws y Llywodraeth, gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod plant ac oedolion ledled Cymru yn fwy egnïol, trwy wneud cerdded a beicio bob dydd yn ddewis hawdd, naturiol, a’r un sy’n fwyaf o hwyl iddynt.
Mae’r adroddiad i’w weld yma https://beta.llyw.cymru/teithio-llesol-adroddiad-blynyddol-2017.