John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae’r trydydd diweddariad ar y camau yng Nghynllun Gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol wedi’i lansio heddiw, 21 Rhagfyr 2011. Mae’r Adroddiad yn adlewyrchu amrywiaeth y gweithgarwch sy’n mynd ymlaen i gefnogi amgylchedd naturiol Cymru, annog mwy o bobl i fwynhau’r arfordir a chefn gwlad a thynnu pobl a chymunedau’n nes at ei gilydd yn eu hamgylchedd a’u cynefinoedd lleol.
Yn yr adroddiad rydym wedi rhoi manylion yr hyn rydym wedi’i wneud mewn ymateb i ddangosyddion Cyflwr yr Amgylchedd, enghreifftiau o rannau eraill o Lywodraeth Cymru am sut maent yn cyfrannu tuag at y Strategaeth Amgylcheddol a manylion y gwaith a wneir o dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i warchod bioamrywiaeth.
Ni fyddai’r hyn rydym wedi’i gyflawni wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad a chymorth amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau o Gyswllt Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu gwaith caled.
Mae’r Cynllun Gweithredu cyfredol wedi bod yn werthfawr gan sicrhau cyfraniad cyrff ac unigolion sy’n sicrhau bod amgylchedd Cymru yn cael ei warchod a’i gynnal. Er y daw’r Cynllun Gweithredu i ben eleni, bydd canlyniadau’r Strategaeth Amgylcheddol yn parhau’n berthnasol i’n strategaethau allweddol, gan helpu i lywio gweithgarwch hyd 2026.
Cyn hir byddwn yn rhyddhau Papur Gwyrdd ar ein cynlluniau ar gyfer Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol. O ran yr ecosystem, mae’r Fframwaith yn ystyried sut rydym yn rheoli’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r amgylchedd naturiol. Rwy’n gobeithio y gwelwn yr un lefel ymrwymiad i’r strategaeth hon ag i Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol bresennol er mwyn creu amgylchedd iachach, fwy cynhyrchiol, sy’n fwy abl i ddelio â phroblemau yng Nghymru.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.