Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw rwyf wedi gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2010/11. Mae’n gosod allan y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu ei chynllun iaith; i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith - a gweithio tuag at y weledigaeth o greu Cymru gwbl ddwyieithog - sef y nod a amlinellwyd yn Iaith Pawb, Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog, a gyhoeddwyd yn 2003.
Mae'r adroddiad yn rhoi manylion am yr ystod eang o weithgareddau a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru, a’i phartneriaid, i gefnogi'r iaith. Mae'n dangos sut mae'r iaith yn cael ei phrif ffrydio i nifer gynyddol o'n gweithgareddau, yn amrywio o ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd i ddatblygu polisïau newydd sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.
Mae'r gwaith a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf yn paratoi'r tir ar gyfer ffocws cryfach fyth gan y Llywodraeth yn y dyfodol. Mae’r angen am ffocws cryfach yn adlewyrchu'r ffaith bod yr iaith yn parhau i fod mewn sefyllfa bregus, er gwaethaf y cynnydd calonogol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg a adroddwyd yng Nghyfrifiad 2001. 
Mae byw ochr yn ochr ag un o ieithoedd cryfaf y byd yn her gyson, fel y mae cyflymdra newidiadau technolegol a'u heffaith ar yr holl ieithoedd lleiafrifol. Yn ogystal, mae prosesau mudo yn parhau i newid cymeriad ieithyddol cymunedau Cymraeg eu hiaith mewn sawl rhan o Gymru. Mae hanes wedi dangos i ni y gall y defnydd o'r iaith o fewn i gymuned leihau’n eithriadol o gyflym - a gellir gweld y dirywiad hwn heddiw mewn sawl rhan o Gymru
Mae cefnogaeth y Llywodraeth tuag at yr iaith hefyd yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad Cymru. Mae'n helpu i ddiffinio pwy ydym ni fel cenedl - yn ein cymunedau, yn ein perthynas â ffrindiau a theuluoedd ac fel unigolion. Gyda llawer o ieithoedd eraill, mae'n ffurfio rhan o'r amrywiaeth cyfoethog sy’n ffurfio tirlun cymdeithasol y wlad hon, y DU ac Ewrop
Fe ddylai neb amau, felly, ymrwymiad y Llywodraeth i'r iaith. Yn ystod 2010/11 cydweithiodd partneriaid clymblaid Cymru'n Un yn agos ac yn gadarnhaol gyda'i gilydd i sicrhau bod ymrwymiadau'r Llywodraeth o ran yr iaith yn cael eu darparu’n llwyddiannus. 
Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod 2010/11, gan gynnwys:
  • ym mis Ebrill 2010, cyhoeddwyd y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed gan y Llywodraeth. Bydd y strategaeth yn datblygu darpariaeth effeithiol cyfrwng Gymraeg o addysg feithrin hyd at addysg bellach ac uwch, gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Iaith Pawb.
  • ym mis Chwefror 2011, cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Gymeradwyaeth  Frenhinol. Fe fydd y Mesur yn newid y fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud â'r iaith Gymraeg. Mae'r Mesur yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg a fydd yn hyrwyddo defnydd o'r iaith a gorfodi hawliau siaradwyr Cymraeg
  • ym mis Mawrth 2011, cymeradwyodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg cynllun iaith newydd Llywodraeth Cymru, sydd â ffocws o’r newydd ar brif-ffrydio’r iaith o fewn i bob rhan o’n gwaith.
Yn ogystal, mae'r Llywodraeth yn datblygu strategaeth iaith Gymraeg newydd, i gymryd lle Iaith Pawb. Bydd y strategaeth yn adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol newydd a ddarperir gan y Mesur Iaith a bydd ganddo ffocws cryf ar gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg a diogelu ei defnydd mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd y strategaeth hefyd yn ategu at ac yn cefnogi'r weledigaeth a amlinellir yn ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd. 
Bydd y Mesur, y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, cynllun iaith newydd y Llywodraeth a’r strategaeth iaith Gymraeg sydd ar gyrraedd yn darparu arfau sylweddol i ni i'w defnyddio er mwyn mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan yr iaith - ac i gynorthwyo gyda sicrhau y gall dyfu o nerth i nerth. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, rhaid i ni sicrhau bod rhieni a theuluoedd yn deall yn well sut y gall yr iaith fod o fudd i'w plant, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus o ran eu magwraeth a'u haddysg. Mae angen i ni sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynllunio a'i darparu yn unol â dymuniadau'r rhieni. Mae angen i ni ddarparu mwy a mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gael mwynhau defnyddio'r iaith y tu hwnt i gatiau'r ysgol - ac mae angen i ni annog rhieni sy'n siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'u plant.
Rwy'n benderfynol o wneud cynnydd mor gyflym ac mor effeithiol â phosib er mwyn delio â'r heriau sydd o'n blaenau 
O fis Rhagfyr ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar ba gynnydd maent yn ei wneud yn erbyn targedau i wella’r nifer y bobl ifanc sy'n dysgu ac yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal, cyhoeddodd y Llywodraeth ar 5 Hydref y bydd Meri Huws yn gwasanaethu fel Comisiynydd cyntaf y Gymraeg, i arwain swyddfa'r Comisiynydd o’r 1af o Ebrill 2012. Mi fydd hi’n bencampwr cryf a gweithgar ar gyfer yr iaith - a bydd yn gweithio gyda sefydliadau i gynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg, gan roi mwy o gyfleoedd i bobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau beunyddiol
Bydd y Comisiynydd yn gweithredu safonau iaith newydd, er mwyn gosod dyletswyddau ar ystod eang o sefydliadau: i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg; i brif ffrydio'r iaith wrth ddatblygu polisïau  - ac i ddatblygu strategaethau o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Bydd safonau hybu’r Gymraeg yn gosod dyletswyddau ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar draws Cymru, er mwyn hyrwyddo defnydd o'r iaith yn ehangach ac i gefnogi ac annog y defnydd ohoni o fewn i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Unwaith eto, rwyf yn benderfynol o wneud cynnydd mor gyflym ag y bo modd er mwyn cyflwyno'r safonau newydd - a bydd y Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda'r Comisiynydd i sicrhau y gellir gwneud hyn.
Drwy'r system o safonau, mae gennym gyfle i ganolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau a all wneud gwir wahaniaeth cyn belled ag y bo’r iaith yn y cwestiwn. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael yn Gymraeg. Mae angen mwy o wasanaethau wyneb-yn-wyneb yn Gymraeg. Mae angen i ni sicrhau bod mwy o benderfyniadau cyllido yn cael eu cymryd gyda'r angen i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn golwg. Mae angen i ni symud i ffwrdd o feddwl am y Gymraeg fel mater cyfieithu - i'r Gymraeg fel rhan arferol o fywyd ddydd i ddydd yng Nghymru.
O'i rhan hi, bydd Llywodraeth Cymru yn etifeddu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg y rôl ganolog ac arwyddocaol o ran hybu’r defnydd o'r Gymraeg. Byddaf yn awyddus i gydweithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol a all gyfrannu at y dasg hon, gan gynnwys yr Urdd, y Mentrau Iaith, awdurdodau lleol ac eraill. Gyda'n gilydd, mae angen i ni ailfywiogi'r iaith – gan weithio'n galed i sicrhau bod y gwaith a gefnogir ac a gyflawnir gennym mor effeithiol ag y bo modd.
Rwyf wedi anfon llythyr at yr holl sefydliadau sydd â chynlluniau iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn eu hatgoffa am eu cyfrifoldebau parhaus o ran cydymffurfio â'r cynlluniau hyn. Yn dilyn penodiad Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod pob sefydliad o'r fath yn ymwybodol y bydd cynlluniau iaith Gymraeg yn parhau mewn grym nes bod y safonau iaith Gymraeg yn cael eu cyflwyno. Amgaeaf gopi o'r llythyr fel Atodiad A, sydd wedi cael ei ddosbarthu i dros 375 sefydliadau, ac i bob Gweinidog perthnasol yn y DU.
Mae angen i ni wneud yr iaith mor ddeniadol ac mor berthnasol â phosib. I'r perwyl hwn, mae rôl a lle'r Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth yn faes allweddol y mae angen i ni ei hystyried. Mae datblygiadau yn y maes hwn yn symud yn gyflym iawn, ond mae angen i ni sicrhau y gall yr iaith wneud defnydd o’r technolegau newydd hyn a’u defnyddio i gefnogi a hwyluso ei defnydd gan siaradwyr Cymraeg o bob oed. Bydd yn her enfawr, o ystyried yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ni, a heb yr arbedion maint y mae ieithoedd mwyafrifol yn eu mwynhau. Oni bai ein bod yn wynebu’r heriau hyn, fodd bynnag, rydym mewn perygl o golli tir - ac mae'r iaith mewn perygl o gael ei gwthio o'r neilltu mewn rhan o fywyd sy’n cynyddu mewn pwysigrwydd.
Mae angen i ni sicrhau delwedd fodern a pherthnasol ar gyfer yr iaith, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig dewisiadau o safon uchel yn y Gymraeg ar draws ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, yn enwedig gweithgareddau sydd o ddiddordeb i'r ifanc - gan gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â hamdden ac amser rhydd . Mae hefyd angen i ni gynyddu ymwybyddiaeth o werth yr iaith.Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth hyrwyddo’r iaith. Rwy'n benderfynol, felly, i weithio mewn partneriaeth er mwyn cynyddu defnydd o'r Gymraeg, gan sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i fwynhau ei defnyddio hi.