Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Wrth gyflawni dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwyf wedi gosod adroddiad gerbron Aelodau’r Cynulliad heddiw yn nodi sut mae’r cynigion yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae’r cyfnod yr adroddir arno yn ymdrin â’r cyfnod o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2014 ac mae’n dangos y camau rydyn ni wedi’u cymryd i gyflawni ein hymrwymiad i gynaliadwyedd fel ein bod ni’n gallu gwneud datblygu cynaliadwy yn egwyddor craidd i’r Llywodraeth. Golyga hyn fod rhaid rhoi pwyslais ar les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a’n bod, wrth wneud penderfyniadau heddiw, yn ystyried y goblygiadau hirdymor i fywydau plant ein plant yn ogystal â’r genhedlaeth bresennol.

Eleni, mae’r adroddiad yn wahanol i’r rhai blaenorol; rydym wedi penderfynu ei gysylltu’n agosach ag Adroddiad Cynnydd y Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ddechrau mis Mehefin. O gofio ein hymrwymiad ni i ddatblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol, rydym yn ystyried ei bod yn arfer da cael cysylltiad agosach rhwng y naill adroddiad a’r llall. Mae hwn wedi bod yn ganfyddiad cyson gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, sydd wedi amlygu’r angen am well synergedd rhwng y ddwy ddogfen drawsbynciol hyn. Cyn  i Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (teitl arfaethedig) gael ei basio bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn sefydliad sy’n gosod esiampl. Rhaid inni sicrhau ein bod, fel Llywodraeth, yn adrodd yn ôl mewn ffordd fwy integredig ar y camau rydym yn eu cymryd i wneud datblygu cynaliadwy’n ganolog i bopeth a wnawn.

Eleni fe ofynnon ni i bob adran o Lywodraeth Cymru ddangos sut maen nhw wrthi’n cyflawni, neu wedi cyflawni, ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu mewn ffordd gynaliadwy. Gofynnwyd hefyd iddynt ddangos pam mae eu gwaith nhw’n bwysig, canlyniadau’r gwaith hwnnw a’r gwahaniaeth rydym yn ei wneud.

Serch hynny, rydym wedi cadw elfennau hanfodol o’r adroddiad gan gynnwys y sylwadau annibynnol a ddarparwyd gan Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, ac rwy’n croesawu hynny. Dyma arwydd clir o’n hymrwymiad ni i Lywodraeth agored, dryloyw. Mae cynnwys sylwadau annibynnol o’r fath yn un o hanfodion adrodd da ac yn rhoi hygrededd i’r Adroddiad Blynyddol cyffredinol. Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar wella’r dulliau o adrodd ynghylch llesiant hirdymor drwy ddatblygu cynaliadwy a byddwn yn ychwanegu at hyn dros y blynyddoedd nesaf.