Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Drwy gyflawni dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwyf heddiw wedi cyflwyno adroddiad gerbron Aelodau’r Cynulliad sy’n nodi sut y mae’r cynigion yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi eu gweithredu. Mae cyfnod yr adroddiad yn estyn o fis Ebrill 2012 i fis Mawrth 2013 ac mae’n dangos sut y mae effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor wedi bod yn sail i bolisïau, rhaglenni a mentrau llywodraeth Cymru dros y cyfnod dan sylw. Mae’r adroddiad yn dilyn strwythur y Cynllun ac yn cynnwys elfennau ychwanegol hefyd. Mae hyn yn symud ymlaen â’r gwaith a wnaed yn adolygiad 2012 o effeithiolrwydd y Cynllun. Mae hefyd yn cynnwys pennod ar wahân ar weithgareddau sy’n digwydd o fewn Llywodraeth Cymru ei hun.
Rwy’n croesawu’r sylwadau annibynnol gan Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Mae hyn yn arwydd o’n hymrwymiad i Lywodraeth agored, dryloyw. Mae cynnwys sylwadau annibynnol fel hyn yn arfer da o ran adroddiadau - mae’n rhoi hygrededd i’r Adroddiad Blynyddol. Nid oes unrhyw weinyddiaeth arall yn y Deyrnas Unedig wedi bwrw ymlaen â chefnogaeth i ymgynghorydd annibynnol ar ddatblygu cynaliadwy nac yn rhoi lle i sylwadau annibynnol fel hyn. Mae hynny, felly, yn gwneud Llywodraeth Cymru'n arweinydd ym maes adrodd ar ddatblygu cynaliadwy. Rydym wedi datblygu ar argymhellion y Comisiynydd bob blwyddyn, ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy, yn enwedig o ran datblygu deddfwriaeth yn y maes. Bydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi mwy o bwys ar wella’r modd yr ydym yn adrodd ar ddatblygu cynaliadwy ac rwy’n gobeithio gwneud hynny yn y blynyddoedd i ddod.