Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dan adran 23 o Ddeddf Cymru 2014, rhaid i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran gwireddu’r darpariaethau dan Ran 2 o’r Ddeddf, hyd at flwyddyn wedi i’r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.

Ar ôl gosod adroddiad blynyddol cyntaf Gweinidogion Cymru ar gyflwyno a gweithredu Rhan 2 o’r Ddeddf gerbron y Cynulliad ar 7 Rhagfyr, rwy’n falch iawn heddiw o osod yr adroddiad blynyddol cyntaf gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae’r adroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth y DU:
https://www.gov.uk/government/publications/first-annual-report-on-the-implementation-and-operation-of-part-2-finance-of-the-wales-act-2014