Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014-15 i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae hyn yn cyflawni’r gofyniad yn Adran 73 (6 ) (b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru  2006. Mae’r Adroddiad yn tanlinellu’r cydweithio a’r gweithio mewn partneriaeth sydd wedi digwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, a’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gwella craffu ac atebolrwydd mewn Llywodraeth Leol.