Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2023-24.
Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i ddiogelu aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy'n agored i niwed ledled Cymru, drwy gynnal hawliadau llawn am gymorth i dalu biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol.
Rydym wedi parhau i gefnogi'r cynllun drwy ddarparu £244m yn y setliad llywodraeth leol blynyddol. Mae ein cynllun cenedlaethol yn gynllun sydd wedi ei deilwra i dargedu'r cyllid hwn at y rhai sydd â'r angen mwyaf.
Yn 2023-24, roedd hynny'n golygu bod dros 268,000 o aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy'n agored i niwed - sef un o bob pum aelwyd - wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth gyngor. O'r rhain, nid oedd bron 214,500 ohonynt wedi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Fel bob amser, ac yn enwedig yn yr amgylchiadau economaidd ansicr a heriol presennol, byddwn yn annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld a oes ganddynt hawl i gael cymorth gyda'u bil treth gyngor, naill ai drwy ein cynllun gostyngiadau, neu drwy un o'r ystod eang o ostyngiadau ac eithriadau sydd ar gael. Dylai pobl sy’n cael trafferth â dyledion treth gyngor gysylltu â'u hawdurdod lleol ar unwaith bob amser, neu ffonio AdviceLink Cymru ar 0800 702 2020.
Rydym yn adolygu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor fel rhan o'n hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach. Ein nod yw sicrhau bod y cynllun yn fwy hygyrch i bawb sydd ag angen y cymorth hwn; yn adlewyrchu'r newidiadau yn ein heconomi; yn targedu cefnogaeth yn effeithiol; ac yn ystyried effeithiau Credyd Cynhwysol. Fe wnaethom ymgynghori ar nifer o newidiadau arfaethedig i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ddiweddar gyda'r nod o'i wneud yn haws cael mynediad ato ac yn haws ei weinyddu. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a chaiff manylion y canlyniadau eu cyhoeddi maes o law.
Rwy'n ddiolchgar am y cymorth parhaus gan awdurdodau lleol wrth weithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru, ac wrth helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd aelwydydd cymwys. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau, lle bo cyllidebau'n caniatáu, bod camau'n cael eu cymryd i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw yr ydym yn byw drwyddo.
Mae'r adroddiad blynyddol ar gael yma.