Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2018 i 2019.
Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddiogelu aelwydydd incwm isel a rhai sy'n agored i niwed ledled Cymru drwy gynnal hawliadau llawn am gymorth i dalu eu biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Rydym wedi parhau i gefnogi'r cynllun drwy ddarparu £244m yn y setliad llywodraeth leol blynyddol. Mae ein cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi'i deilwra ac yn golygu bod y cyllid hwn yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.
Yn 2018-19, golygodd hyn bod tua 280,000 o aelwydydd incwm isel a rhai sy'n agored i niwed - sef un o bob pum aelwyd - wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth gyngor. O'r rhain, amcangyfrifir nad oedd 220,000 ohonynt wedi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Ym mis Mawrth 2018, lansiwyd ymgyrch gennym i godi ymwybyddiaeth o'r cyllid sydd ar gael i leihau cost y dreth gyngor i'r rheini sydd:
- yn byw ar incwm isel
- yn byw ar eu pennau eu hunain, neu gyda phobl neu blant nad ydynt yn talu'r dreth gyngor
- yn fyfyrwyr
- yn anabl
- yn ofalwyr
- â nam meddyliol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â'r awdurdodau lleol, Money Saving Expert a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu cyngor syml a chyson i sicrhau bod gan holl aelwydydd Cymru yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt am eu hawliadau ar gyfer cymorth gyda'r dreth gyngor.
Er gwaethaf ein cefnogaeth barhaus i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae'r niferoedd sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn gostwng yn raddol. Byddwn felly'n annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld a ydynt yn gymwys i gael help gyda'u bil treth gyngor o dan ein cynllun gostyngiadau neu un o'r disgowntiau eraill sydd ar gael.
Rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda'r rhaglen waith eang i edrych ar sut y gellid gwella'r system dreth gyngor dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hirach er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach.
Eisoes yn 2019, rydym wedi pasio deddfwriaeth i ddileu'r gosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor ac i eithrio'r rheini sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor hyd at 25 oed. Yn ogystal, rydym wedi gweithio'n agos gyda CLlLC, awdurdodau lleol a Money Saving Expert i sicrhau bod awdurdodau lleol wedi mabwysiadu a gweithredu dull cyson o ymdrin â cheisiadau am ddisgowntiau ac eithriadau ar gyfer pobl sydd â nam meddyliol difrifol.
Rydym hefyd yn parhau i adolygu’r dreth gyngor i feddwl am ffyrdd arloesol o ganfod aelwydydd a allai fod yn gymwys i gael cymorth i dalu'r dreth gyngor, ond nad ydynt yn derbyn y cymorth hwnnw ar hyn o bryd. Fel rhan o hyn, rydym wedi comisiynu ymchwil allanol i ddeall yr effaith y mae'r Credyd Cynhwysol yn ei chael ar y nifer sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gwerth gostyngiadau'r dreth gyngor. Bydd yr ymchwil hon hefyd yn edrych ar effaith y Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent yng Nghymru.
Nid ydym yn credu y dylai penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU am fudd-daliadau lles gael effaith ar drethi lleol yng Nghymru, sy'n faes sydd wedi'i ddatganoli ers 1999. Ond, o ganlyniad i'r ffordd y mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau nawdd cymdeithasol y DU yn effeithio ar hawliadau ar gyfer amrywiaeth o systemau cymorth eraill, rydym yn dechrau gweld effaith niweidiol ar draws Cymru wrth i'r Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno. Mae'n bwysig ein bod yn deall yr effeithiau hyn, a lle y bo'n bosibl, ymateb mewn modd priodol.
Disgwylir i'r ymchwil gael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2020, a bydd y canfyddiadau yn dylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2020-21 a thu hwnt, wrth i ni geisio sicrhau nad yw aelwydydd o dan anfantais o ganlyniad i'r Credyd Cynhwysol. Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau i ystyried a oes angen gwneud diwygiadau mwy sylweddol i'r cynllun yn y tymor canolig er mwyn lleihau effeithiau'r diwygio lles a helpu i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus gan awdurdodau lleol wrth gyflwyno'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac wrth helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd aelwydydd cymwys. Rwy'n parhau i ymrwymo i sicrhau bod camau pellach yn cael eu cymryd i leihau'r canlyniadau ar gyfer y rheini sy'n cael eu heffeithio gan ddiwygiadau llesiant Llywodraeth y DU.