Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol. 

Maent wedi'u penodi gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion gyda materion ble mae gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth yn croesi, a ble fyddai'n amhriodol i weision sifil parhaol gymryd rhan, gan gynnwys penodiadau sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Cydweithredol blaenorol.

Roedd 18 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o flwyddyn ariannol 2023/24, sy'n cyfateb i 14 cynghorydd arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir yn y tabl isod:

Alex Bevan*
Madeleine Brindley 
Steffan Bryn (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Daniel Butler ** (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Ian Butler ** (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
David Davies † (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Kate Edmunds (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Emily Edwards**
Sara Faye 
Sam Hadley~
Mark Hooper** (penodwyd 25 Medi 2023)
David Hooson 
Clare Jenkins * (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Owen John (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Phillipa Marsden
Jane Runeckles* (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024)
Mitchell Theaker (diwrnod olaf o wasanaeth 3 Ebrill 2023)
Dafydd Trystan**~ (penodwyd 12 Chwefror 2024)
Tom Woodward 

* Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig

** Rhan-amser

† Cynghorydd Arbennig ar alwad, a delir â ffi

~ Secondai, a delir yn unol â band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig

Cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 oedd £1,772,135. Mae hyn yn cynnwys cyflog a'r holl gyfraniadau ychwanegol perthnasol. 

Oherwydd ymadawiad y (cyn) Brif Weinidog Mark Drakeford AS ar 20 Mawrth 2024, daeth y contractau ar gyfer pob Cynghorydd Arbennig i ben. Mae'r cyfanswm uchod yn cynnwys taliadau diswyddo o £479,715, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Ar ôl ailbenodi rhai Cynghorwyr Arbennig bydd £189,079 o daliadau diswyddo yn cael eu hadennill ac mae’r ffigurau uchod yn cynnwys symiau a gronnwyd ar gyfer eu hadennill ar ddiwedd y flwyddyn. Cyfanswm cost net taliadau diswyddo i gyn Ymgynghorwyr Arbennig yn 2023-24 oedd £290,636.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig. Y bandiau cyflog hyn yw:

Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £57,740 – £75,705

Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig: £75,000 – £88,130

Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am hyn, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.