Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel Llywodraeth, rydym yn parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n diwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd da o ran darparu gwasanaethau i aelodau a chyn aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd sydd wedi eu helpu i setlo yn ôl yn ein cymunedau, ac addasu i fywyd sifiliaid.

Mae Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog wedi bod o gymorth mawr wrth sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth i'r rhai hynny sydd angen ein cymorth. Gan gydweithio, mae wedi darparu platfform a llais wrth adnabod problemau, a thargedu cymorth i helpu i liniaru'r problemau hynny.

Ym mis Ebrill 2018, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol i gyflwyno Adroddiad Blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynglŷn â'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni ein hymrwymiad i'r gymuned hon.

Mae’r Adroddiad Blynyddol cyntaf Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi cael ei ddatblygu dros fisoedd y gaeaf mewn partneriaeth efo Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed gennym, ac yn rhoi'r sylfaen ar gyfer parhau â'r gwaith da ac i adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym i sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn cael y gwasanaethau a'r cymorth y maent yn eu haeddu.

Mae copi o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn:

Armed Forces Covenant: annual report 2018
Cyfamod y Lluoedd Arfog: adroddiad blynyddol 2018