Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwyf yn falch o gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol cyntaf Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl Cymru.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl. Crëwyd y swydd ym mis Mawrth 2011 er mwyn cyflawni’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Rwy’n falch bod Cymru ar flaen y gad yn mynd i’r afael â’r drosedd ffiaidd hon.

Penodwyd Stephen Chapman i’r swydd ar 20 Tachwedd, 2012. Diben yr adroddiad yw rhoi’r diweddaraf ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

Ers 2009, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y dioddefwyr masnachu pobl sy’n cael eu cyfeirio at y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (y NRM) (a reolir gan Ganolfan Masnachu Pobl y DU (UKHTC) sy’n rhan o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).  Mae UKHTC yn nodi bod y tueddiad cynyddol hwn wedi parhau trwy gydol 2013, ac nad oes unrhyw arwydd bod hyn yn mynd i newid.

Er eu bod yn cynyddu, mae’r niferoedd sy’n cael eu cyfeirio at y NRM yn parhau’n isel, yn 2012, roedd cyfanswm o 1,156 o achosion ledled y DU. Roedd hyn yn cynnwys 34 achos wedi eu cofnodi yng Nghymru a 10 o’r rheini yn ymwneud â phlant o dan oed.  Roedd chwech o’r dioddefwyr a oedd yn oedolion yn dod o Wlad Pwyl (6 atgyfeiriad). Daeth y mwyaf o atgyfeiriadau o blant o dan oed (6 atgyfeiriad) o Fietnam.

Rydym yn cydnabod bod problemau o ran casglu data ac yn credu bod yr ystadegau presennol, sy’n seiliedig ar atgyfeiriadau NRM gan UKHTC yn 2012 yn gwneud dim mwy na chrafu’r wyneb.  Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i greu trysorfa o dystiolaeth ar faint y broblem o fasnachu mewn pobl yng Nghymru er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth i roi cyfeiriad i weithgareddau yn y dyfodol.

Hyd yn oed heb y darlun cyfan, yn anffodus rydyn ni’n gwybod bod masnachu pobl yn digwydd yma yng Nghymru. Yn y Gwanwyn eleni, achubwyd dyn 43 oed gan Heddlu Gwent, a fu’n gaeth am 13 o flynyddoedd ar fferm yn ardal Maerun, Casnewydd, gan Heddlu Gwent. Bu’r dyn yn byw mewn amgylchiadau gwael ac yn cael ei orfodi i weithio heb gyflog. Yna, lansiwyd ‘Ymgyrch Imperial’, ymgyrch a gafodd gryn sylw yn y wasg genedlaethol, ac ym mis Medi 2013 arestiwyd tri dyn ac fe’u cyhuddwyd o droseddau masnachu pobl. Achubwyd nifer o ddynion eraill.

Llwyddodd yr ymgyrch yn bennaf oherwydd y camau amlasiantaethol a gymerwyd. Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i Heddlu Gwent, yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, Lluoedd eraill, UKHTC, yr RSPCA a’r Groes Goch am eu hymdrechion.

Rydym wedi gweld datblygiadau a chynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Rwyf wedi sefydlu Grŵp Arweinyddiaeth ar gyfer Atal Masnachu Pobl yng Nghymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol a chydgysylltu gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â masnachu pobl yng Nghymru. Mae Cynllun Cyflawni gan y Grŵp Arweinyddiaeth sy’n cynnwys Amcanion Strategol a fydd yn ei alluogi i arolygu a phennu cyfeiriad y mesurau i fynd i’r afael â masnachu pobl yng Nghymru.

Mae’r Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl, ym mlwyddyn gyntaf y swydd, wedi meithrin a chryfhau’r berthynas rhwng ystod eang o bartneriaid datganoledig statudol, partneriaid datganoledig anstatudol a sefydliadau eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol i godi ymwybyddiaeth a chydgysylltu gweithgareddau ar y cyd i fynd i’r afael â masnachu pobl yng Nghymru.

Yn yr Adroddiad Blynyddol, ceir manylion o’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gyda phartneriaid yng Nghymru, SY’N cynnwys:

  • sefydlu Fforymau Atal Masnachu mewn Pobl yng Ngwent, y De a Bae’r Gorllewin;
  • sefydlu’r Cydgysylltydd Rhanbarthol Atal Masnachu Pobl cyntaf yn y Gogledd;
  • sefydlu BAWSO a Llwybrau Newydd, dau sefydliad Cymraeg, i ddod yn Sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf;
  • cyflwyno sesiynau codi ymwybyddiaeth i brif randdeiliaid allweddol ledled Cymru;
  • cyflwyno rhaglen hyfforddi i Uwch Swyddogion Ymchwilio ein heddluoedd; ac
  • ail lansio gwefan Llywodraeth Cymru ar Atal Masnachu Pobl
Ym mis Hydref roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod lle roedd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod y Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol yn 10 Downing Street, ac yno cyhoeddodd ei fwriad i roi Mesur Caethwasiaeth Fodern ar waith erbyn Mai 2014 er mwyn cryfhau ymateb y DU i fasnachu pobl. Cyhoeddwyd y Bil hwn ar 16 Rhagfyr ac rwy’n gyffredinol gefnogol o’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni.

Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU i gyflwyno’r mesurau newydd hyn i adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi’i gyflawni eisoes yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf

Rwyf wedi ystyried yr angen i newid y derminoleg rydyn ni’n ei defnyddio er mwyn sicrhau bod y gwaith sy’n cael ei wneud gennym yn cael ei ddeall yn llwyr gan y cyhoedd a’n partneriaid. Felly, rwyf wedi penderfynu mai enw Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl fydd y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth o hyn ymlaen. Bydd dioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu hadnabod fel goroeswyr a bydd y rheini sy’n masnachu pobl yn cael ei galw, yn syml iawn, yn droseddwyr. Bydd y termau hyn yn cael eu derbyn a’u deall o ganlyniad i’r Bil Caethwasiaeth Fodern ac fe’u defnyddir yn barod i ryw raddau yn y cyfryngau. Mae mwy o ystyr iddynt ac maent yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r mater i bobl. Yn benodol mae’r termau hyn yn gwahaniaethu’n glir rhwng smyglo pobl a cheiswyr lloches. Er enghraifft, rydym yn gwybod am y diffyg eglurder ynglŷn â’r bobl sy’n cael eu masnachu oherwydd eu bod yn cael eu hystyried gan y cyhoedd fel mewnfudwyr anghyfreithlon. Nid yw hyn yn wir o gwbl a bydd y newid yn y derminoleg yn egluro hyn i’r cyhoedd ac yn tynnu sylw at pa mor fregus yw sefyllfa’r rheini sy’n goroesi caethwasiaeth fodern ac yn cael eu herlid dioddef erledigaeth o achos caethwasiaeth fodern.

Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o realiti ciaidd a pheryglus caethwasiaeth fodern yma yng Nghymru. Ym mis Chwefror byddaf yn lansio ymgyrch deledu i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r ecsbloetio troseddol hwn a’i wahanol ffurfiau, gan danlinellu sut mae modd i bobl gael eu gorfodi i buteindra, cael eu hecsbloetio’n rhywiol, cael eu gorfodi i weithio mewn gweithdai cyflog isel  a ffermydd canabis, a hyd yn oed tynnu organau.

Byddwn hefyd yn dal i edych am ‘arferion da’ a’u rhannu, i sicrhau bod lefel cyson o wasanaeth yn cael ei ddarparu ledled Cymru.  

Rydym yn ffodus bod ein partneriaid yn barod ac yn fodlon i gydweithio â ni yn mynd i’r afael â’r drosedd hon sy’n difetha’n cymdeithas. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru yn hyn o beth wedi bod yn allweddol. Byddwn yn parhau i roi cyfeiriad a chefnogaeth i sicrhau bod y rhai sy’n goroesi caethwasiaeth fodern yn cael yr help sydd ei angen arnynt a bod y troseddwyr sy’n gwneud hyn iddynt hefyd yn wynebu cyfiawnder.