Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton a minnau wedi gosod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2023-24 gerbron y Senedd wrth gyflawni'r dyletswyddau a nodir yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

Bydd Aelodau am nodi bod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2023-24 yn cynnwys manylion ymchwiliadau Cyllid a Thollau EF (CThEF) i gydymffurfedd hanesyddol CNC â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres (a elwir yn fwy cyffredin yn IR35), a graddau'r atebolrwydd posibl a allai fod yn ddyledus. 

Mae CNC a CThEF yn parhau i drafod y mater hwn er mwyn sicrhau datrysiad. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda CNC a darparu'r cymorth angenrheidiol wrth fynd drwy'r broses hon.

Ers dod yn ymwybodol o'r mater, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei hymgysylltiad â CNC i olrhain a monitro ei gynnydd wrth ddatrys y mater ac i ddysgu gwersi o ran sut y daethpwyd i'r sefyllfa hon. 

Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda CNC i ddatblygu gwell trefniadau monitro i roi sicrwydd a hyder yn y trefniadau goruchwylio, rheoli ariannol a rheoli risg sydd ar waith.  Rwyf hefyd wedi gofyn i Gadeirydd CNC gymryd nifer o gamau i wella capasiti a gallu ymhellach o fewn CNC.

Does dim amheuaeth bod y staff proffesiynol ac angerddol o fewn CNC yn gweithio'n galed bob dydd i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ac iechyd a lles pobl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi CNC i ymgymryd â'u rôl hanfodol ac i'w dwyn i gyfrif wrth gyflawni'r ddarpariaeth honno.