Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw rwyf yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2020/2021. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â thrydedd flwyddyn ei weithrediad.
Mae ACC wedi parhau i gyflenwi ei wasanaethau er gwaethaf yr heriau sydd wedi deillio o bandemig COVID. Mae'r Adroddiad blynyddol yn darparu ystod eang o wybodaeth i ddangos llwyddiannau'r sefydliad.
Mae'r ACC, trwy weithio gyda threthdalwyr a'u cynrychiolwyr, wedi canolbwyntio ar addasu eu gwasanaethau i wella hygyrchedd yn ystod blwyddyn lle'r oedd amgylchiadau pobl yn newid yn aml. Mae'r sefydliad wedi ailflaenoriaethu ac addasu adnoddau i fodloni'r galw, tra'n cefnogi eu timau i weithio gartref am gyfnod hir oherwydd ymrwymiadau teuluol cynyddol.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu cynnydd parhaus ACC wrth feithrin enw da am ei waith effeithiol a chymwys wrth gasglu a rheoli'r ddwy dreth hyn. Mae hefyd yn dangos ei gadernid mewn ymateb i ddau argyfwng (sef y pandemig a llifogydd yn y swyddfa ym mis Chwefror 2020).
Mae hon yn enghraifft wych o ddatganoli - hwyluso arloesi yng Nghymru, creu ffordd Gymreig o wneud trethi sy'n darparu gwell canlyniadau i drethdalwyr a hefyd sicrhau yr eir i'r afael â risgiau trethi yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae'r trethi y mae ACC yn eu casglu'n cael eu cadw yng Nghymru i'w gwario ar bobl Cymru i helpu i wella ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC ar gyfer 2020/2021 ar gael trwy'r ddolen isod:
https://llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru-adroddiad-blynyddol-chyfrifon-2020-2021